Y dyfarnwr o Loegr, Wayne Barnes, fydd yn cadw trefn ar y gêm rygbi rhwng tîm Cymru ac Iwerddon ar 14 Mawrth.
Mae o wedi cael ei alw yn lle’r dyfarnwr o Awstralia, Steve Walsh, sydd wedi gorfod tynnu’n ôl o’r gêm oherwydd “ymrwymiadau busnes”.
Mae rheolwr tim Cymru Warren Gatland wedi beirniadu sawl penderfyniad gan Wayne Barnes ar y cae dros y blynyddoedd diwethaf – gan gynnwys pan wnaeth o ganiatáu cais gan Joe Tomane yn y gêm rhwng Cymru ac Awstralia yng Nghyfres yr Hydref 2013.
Roedd Wayne Barnes i fod yn ddyfarnwr cynorthwyol yn y gêm rhwng Yr Eidal a Ffrainc ar 15 Mawrth, ond y Cymro Nigel Owen fydd yn cymryd ei le.