Tottenham 3–2 Abertawe
Chwaraeodd Abertawe eu rhan mewn gêm gyffrous yn erbyn Tottenham ar White Hart Lane nos Fercher ond y tîm cartref aeth â hi yn y diwedd.
Ni fuodd yr Elyrch ar y blaen trwy gydol y gêm ond daeth gôl Gylfi Sigurdsson â hwy o fewn un i Spurs funud o ddiwedd y naw deg a bu bron i gynnig hwyr Fernandez gipio pwynt iddynt yn er eiliadau olaf un.
Cafwyd cyfnod pryderus yn gynnar yn y gêm hefyd wrth i Bafetimbi Gomis dderbyn triniaeth hir ar ôl llewygu ar y cae.
Digwyddodd hynny’n syth wedi i foli Nacer Chadli roi Spurs ar y blaen ond buan iawn wedi’r oedi yr unionodd Ki Sung-yeung wrth i adroddiadau gyrraedd fod Gomis yn iawn.
Adferodd Ryan Mason fantais y tîm cartref yn gynnar yn yr ail gyfnod cyn i Andros Townsend sgorio andros o gôl i ymestyn y fantais ar yr awr, yr asgellwr yn rhwydo wedi rhediad gwych.
Parhau i ymdrechu a wnaeth yr Elyrch yn yr hanner awr olaf a rhoddodd gôl hwyr Sigurdsson yn erbyn ei gyn glwb obaith iddynt. Ac fe ddaeth un cyfle hwyr hefyd, ond gwnaeth Hugo Lloris arbediad gwych i atal Federico Fernandez yn eiliadau olaf yr amser a ganiateir am anafiadau ar ddiwedd y gêm.
Mae Abertawe yn llithro un lle i’r nawfed safle yn nhabl yr Uwch Gynghrair oherwydd buddugoliaeth Stoke gartref yn erbyn Everton.
.
Tottenham
Tîm: Lloris, Walker, Dier, Vertonghen, Rose (Davies 78′), Bentaleb, Mason, Townsend (Dembélé 64′), Eriksen, Chadli, Kane (Soldado 76′)
Goliau: Chadli 7’, Mason 51’, Townsend 60’
Cerdyn Melyn: Dier 62’
.
Abertawe
Tîm: Fabianski, Naughton, Fernandez, Williams, Taylor, Ki Sung-yueng, Cork, Shelvey (Montero 73′), Sigurdsson, Gomis (Castro Oliveira 12′), Routledge
Goliau: Ki Sung-yueng 19’, Sigurdsson 89’
.
Torf: 34,008