Mae Abertawe’n gobeithio sicrhau eu trydedd buddugoliaeth o’r bron heno wrth iddyn nhw deithio i ogledd Llundain i herio Spurs.

Cyrhaedodd yr Elyrch 40 o bwyntiau yn dilyn eu buddugoliaeth o 1-0 yn Burnley y penwythnos diwethaf, gan guro’u hamser cyflymaf i gyrraedd y nod a ddylai fod yn ddigon i’w cadw yn yr Uwch Gynghrair am dymor arall.

Mae’r Elyrch bellach yn wythfed yn y tabl.

Dydy Abertawe ddim wedi curo Spurs yn yr Uwch Gynghrair hyd yn hyn, ac fe gollon nhw pan gyfarfu’r ddau dîm yn Stadiwm Liberty ym mis Rhagfyr.

Dydy’r Elyrch ddim wedi sgorio yn erbyn Spurs yn eu dwy gêm diwethaf.

Fe fydd Spurs yn awyddus i sicrhau buddugoliaeth wedi iddyn nhw golli yn erbyn Chelsea yn rownd derfynol Cwpan Capital One yn Wembley ddydd Sul.

Un o’r rheiny y bydd rhaid i’r Elyrch eu tawelu heno yw’r ymosodwr ifanc, Harry Kane, sydd wedi rhwydo 12 o weithiau mewn 11 o gemau yn yr Uwch Gynghrair y tymor hwn.

Wrth edrych ymlaen at yr ornest, dywedodd rheolwr Abertawe, Garry Monk: “Ry’n ni’n hyderus – dyna beth mae buddugoliaethau’n ei wneud i chi.

“Ond ry’n ni’n ymwybodol ein bod ni’n herio tîm da iawn.

“Fe gollon nhw’r ffeinal ac fe fyddan nhw am daro nôl mor fuan â phosib.

“Hoffwn feddwl fod hynny wedi niweidio’u hyder nhw, ond mae’r timau mawr yn ennyn ymateb da ac fe fyddwn ni’n paratoi am y gorau sydd gan Tottenham ar ein cyfer ni.”

Dywedodd rheolwr Spurs, Mauricio Pochettino mai hon yw’r gêm bwysicaf o blith y 12 gêm sydd ganddyn nhw’n weddill y tymor hwn.

Wynebau cyfarwydd

Fe fydd y ddau dîm yn dod wyneb yn wyneb â chwaraewyr cyfarwydd ar ôl tipyn o fynd a dod rhwng y ddau glwb dros yr haf.

Mae’n debygol y bydd Ben Davies yn nhîm Spurs i wynebu Abertawe, gyda chyn-golwr yr Elyrch Michel Vorm hefyd ar y fainc.

Yn nhîm Abertawe fe fydd Gylfi Sigurdsson a Kyle Naughton yn wynebu eu cyn-glwb os ydyn nhw’n cael eu dewis.