Jayne Ludlow y rheolwraig newydd
Mae tîm pêl-droed merched Cymru wedi colli o 1-0 yn erbyn Ffrainc B yng nghystadleuaeth Cwpan Istria yng Nghroatia.
Hon oedd gêm gynta’r rheolwraig newydd, Jayne Ludlow wrth y llyw, a gêm gyntaf Sophie Ingle yn gapten.
Marina Makanza a gipiodd y gôl fuddugol i Ffrainc B.
Mae Cymru’n cystadlu yng Ngrŵp C, ynghyd â Chosta Rica, Ffrainc B a Bosnia a Herzegovina.