Gareth Evans
Fe fydd y pencampwr codi pwysau Olympaidd, Gareth Evans, yn cystadlu yng Nghaerdydd ddydd Sul mewn ymgais i gyrraedd Pencampwriaethau Ewrop.

Dyma fydd ei gyfle olaf i gyrraedd y pencampwriaethau sy’n cael eu cynnal yn Tblisi fis nesaf.

Bydd rowndiau rhagbrofol nifer o gystadlaethau’n cael eu cynnal yng Nghanolfan Chwaraeon Cymru yng Nghaerdydd ddydd Sul, gan gynnwys y rheiny ar gyfer Pencampwriaethau’r Gymanwlad yn India ddiwedd y flwyddyn.

Ar i fyny

Fe fydd yn un o’r cystadlaethau gorau ers tro ar dir Cymru, meddai’r trefnwyr, sydd hefyd yn honni bod y gamp ar i fyny’n gyffredinol.

Mae Stephanie Owens, Darius Jokarzadeh a Christie Wililams ymhlith yr athletwyr eraill fydd yn cystadlu ddydd Sul.

Bydd Catrin Jones, sy’n cystadlu yn y categori dan 17 oed, hefyd yn ceisio am le yn nhîm Prydain ar gyfer pencampwriaethau ieuenctid Ewrop a’r byd.

‘Un o’r lein-yps gorau’

Dywedodd Cyfarwyddwr Perfformiad Codi Pwysau Cymru, Simon Roach: “Dyma un o’r lein-yps gorau r’yn ni wedi’i gael ar gyfer digwyddiad hŷn yng Nghymru.

“Yn ogystal â’r codwyr sy’n ceisio am deitlau Cymreig, mae’r ymgais i gymhwyso [ar gyfer pencampwriaethau] hefyd yn ychwanegu gwerth i’r gystadleuaeth.

“Mae gyda ni lu o godwyr ifanc talentog sy’n datblygu trwy’r llwybrau codi pwysau.

“Fe gawson ni 18 o fedalau ym Mhencampwriaethau Ysgolion Prydain eleni, o’i gymharu â saith y llynedd. Dyna arwydd o’r cynnydd rydyn ni’n ei wneud.”