Wedi'r ffrwydrad (AP)
Mae achos bom Boston yn 2013 wedi dechrau heddiw.

Mae Dzhokhar Tsarnaev wedi ei gyhuddo o achosi’r ffrwydrad pan gafodd tri o bobol eu lladd a 260 eu hanafu wedi i ddau fom ffrwydro ger llinell derfyn marathon y ddinas, Ebrill 15, 2013.

Cafodd brawd Dzhokhar Tsarnaev, Tamerlan, ei saethu’n farw gan yr heddlu yn y dyddiau wedi’r dilyn y digwyddiad.

Mae disgwyl i gyfreithwyr ar ran Tsarnaev ddadlau ei fod wedi’i ddylanwadu gan ei frawd hŷn.

Mae Tsarnaev yn wynebu 30 cyhuddiad, gan gynnwys saethu plismon yn farw, ac fe allai 17 o’r cyhuddiadau arwain at y gosb eithaf.

Mae disgwyl i’r achos llys bara rhai misoedd, ac mae degau o’r rhai a gafodd eu hanafu yn y llys i glywed y dadleuon agoriadol.