Mae cyn-chwaraewr amryddawn Morgannwg, Darren Sammy wedi ymuno â Swydd Nottingham ar gyfer cystadleuaeth y T20 Blast eleni.
Daeth Sammy i Gymru y tymor diwethaf i gynrychioli Morgannwg yn eu gemau diwethaf yn yr un gystadleuaeth.
Mae Sammy wedi ychwanegu ei enw at restr faith o chwaraewyr o’r Caribî sydd wedi gwisgo crys Swydd Nottingham – Syr Garfield Sobers, Jimmy Adams, Deryck Murray, Franklyn Stephenson a Vasbert Drakes yn eu plith.
Bellach, mae Sammy, sy’n 31 oed, yn arbenigo yn fformat ugain pelawd y gêm, wedi iddo ymddangos yn nhimau St Lucia Zouks, y Titans yn Ne Affrica, Sunrisers Hyderabad yn India a’r Hobart Hurricanes yn Awstralia.
Mae disgwyl i Sammy chwarae pedair gêm i Swydd Nottingham yn ystod y gystadleuaeth, a hynny ar ôl chwarae i Royal Challengers Bangalore yn yr IPL yn India.
Sgoriodd Sammy ei unig ganred ryngwladol – 106 – mewn gêm brawf i India’r Gorllewin ar gae Trent Bridge yn 2012.