Garry Monk (PA)
Fe fyddai buddugoliaeth i Abertawe i ffwrdd yn Tottenham heno yn siŵr o roi Garry Monk mewn hwyliau da – gan ei fod yn debygol o gael pryd o dafod ar ôl mynd adref!

Mae rheolwr Abertawe yn gorfod colli pen-blwydd cyntaf ei efeilliaid heno oherwydd y gêm, ac fe gyfaddefodd nad oedd ei wraig Lexy yn rhy hapus.

Ond fe fydd hwyliau digon da yng nghartref y Monks os byddan nhw’n llwyddo i ennill yn erbyn Spurs am y tro cyntaf ers i’r Elyrch gael dyrchafiad i’r Uwch Gynghrair.

‘Llond ceg’

Cafodd y gêm rhwng Abertawe a Spurs ei symud o nos Fawrth i nos Fercher, a hynny oherwydd bod y gwrthwynebwyr wedi chwarae yn rownd derfynol Cwpan Capital One ddydd Sul.

Yn anffodus i Garry Monk, roedd y dyddiad newydd yr un pryd â pharti pen-blwydd cyntaf ei blant.

“Dw i wedi cael llond ceg!” chwarddodd Monk. “Fe gafodd y gêm ei symud achos eu bod nhw wedi cyrraedd y ffeinal a fy ngwraig oedd y cyntaf i weld y peth. Ond mae hi’n deall natur fy ngwaith i ac mae hi wedi bod yn wych am y peth.

“Mae parti’r efeilliaid ddydd Mercher felly fe fydd yn rhaid i fi siarad gyda nhw ar FaceTime. Falle alla’ i drio fe hanner amser a chael y bois i chwifio llaw arnyn nhw!

“Ond fi’n siŵr y dathlwn ni pan ddown ni nôl ac fe fyddai’n grêt cael y tri phwynt. Dw i ddim yn siŵr y byddan nhw’n ei werthfawrogi ond eto, fe allai fod yn anrheg berffaith.”

Wynebau cyfarwydd

Fe fydd y ddau dîm yn dod wyneb yn wyneb â chwaraewyr cyfarwydd ar ôl tipyn o fynd a dod rhwng y ddau glwb dros yr haf.

Mae’n debygol y bydd Ben Davies yn nhîm Spurs i wynebu Abertawe, gyda chyn-golwr yr Elyrch Michel Vorm hefyd ar y fainc.

Yn nhîm Abertawe fe fydd Gylfi Sigurdsson a Kyle Naughton yn wynebu eu cyn-glwb os ydyn nhw’n cael eu dewis.

Cyrraedd 40

Mae tîm Garry Monk eisoes wedi cyrraedd 40 pwynt yn y gynghrair, y cyflymaf i’r clwb erioed wneud hynny.

Ond dyw eu record nhw yn erbyn Spurs ddim cystal – ar ôl cael gêm gyfartal yn eu herbyn nhw y tro cyntaf i’r ddau dîm gyfarfod yn yr Uwch Gynghrair, maen nhw wedi colli pob un o’r chwech ers hynny.

Ond dyw Garry Monk ddim yn disgwyl iddi fod yn gêm unochrog o bell ffordd.

“Mae’n siŵr ein bod ni wedi bod yn anlwcus i gael y record yna yn ein herbyn ni ond maen nhw’n dîm anodd i chwarae, tîm da gyda safon,” ychwanegodd Monk.

“Er mai dyna beth mae’r ystadegau yn ei ddangos, os ydych chi’n edrych ar stori’r gemau maen nhw wedi bod yn rai cystadleuol iawn.”