Iolo Cheung
Iolo Cheung sydd yn dewis y deg gôl orau yng Nghymru a gan y Cymry eleni …
10. Aaron Ramsey (ARSENAL v Hull, 17/5/14)
Anghofiwch – am eiliad – yr achlysur, sef ffeinal Cwpan FA Lloegr. Anghofiwch – am eiliad – fod hon yn gôl hwyr yn yr amser ychwanegol i ennill y gêm i Arsenal, a hwythau wedi bod 2-0 ar ei hôl hi.
Eisteddwch nôl a mwynhewch y symudiadau a’r pasio gwych wnaeth arwain at ergyd swmpus Aaron Ramsey – ‘gorau chwarae, cyd chwarae’ ar ei orau.
Gallwch weld y gôl o 2:56 ymlaen yn y clip:
9. Jonathan Williams (IPSWICH v Derby, 25/3/14)
Ergyd wych gan Joniesta tra ar fenthyg i Ipswich gan Crystal Palace y tymor diwethaf.
Digon o bŵer y tu ôl iddi wrth iddo gladdu’r bêl yng nghornel bellaf y rhwyd, a hynny ar ôl canfod bwlch yng nghanol yr holl gyrff yna.
8. Darren Thomas (CAERNARFON v Seintiau Newydd, 30/11/14)
Un o goliau mwyaf cofiadwy’r flwyddyn, heb os nac oni bai.
Roedd Caernarfon eisoes 1-0 ar y blaen yn syfrdanol yn erbyn cewri Uwch Gynghrair Cymru, Y Seintiau Newydd, pan aeth Darren Thomas ar rediad gwych a dyblu mantais y tîm cartref gydag ergyd a hanner.
Wrth gwrs, nid dyna ddiwedd y stori am y gôl yma – wrth i gefnogwyr Caernarfon ddymchwel y wal gyda’u dathlu, a llais pwyllog Nic Parry yn dangos rhyw dinc ychwanegol o bryder.
7. Gareth Bale (REAL MADRID v Rayo Vallecano, 29/3/14)
Mae unrhyw gôl lle mae’r chwaraewr wedi rhedeg o ymyl ei gwrt cosbi ei hun yn haeddu cael ei hystyried yn y deg uchaf, ac mae hynny’n sicr yn wir am yr ymdrech yma gan Gareth Bale.
Mae’r cyflymder ganddo i guro’i ddynion yn arswydus, er mai dim ond un dyn sydd ganddo i’w guro am y rhan fwyaf o’r rhediad. Ac amddiffynnwr Rayo Vallecano oedd hwnnw.
6. Scott McCoubrey (AFAN LIDO v Port Talbot, 14/3/14)
Ergyd wych gan Scott McCoubrey i Afan Lido yn erbyn Port Talbot – hon fel mae’n digwydd enillodd Gôl y Tymor Uwch Gynghrair Cymru eleni.
Mi allwch chi weld pam hefyd, wrth i McAubrey reoli’r bêl yn daclus ar ei frest cyn tanio foli hyfryd dros ei ysgwydd – fyddai ddim siawns gan y golwr o gyrraedd honna hyd yn oed tasa fo nôl ar ei lein.
Gallwch weld y gôl ar ôl 2:52 o’r clip:
5. Aaron Ramsey (ARSENAL v Norwich, 11/5/14)
Mae’r dechneg yn hyfryd ar y gôl yma gan Ramsey, pan sgoriodd o yn erbyn Norwich ar ddiwrnod olaf y tymor diwethaf.
Pêl wych draw iddo gan Giroud, ond mae’r ffordd y mae Ramsey yn gosod ei gorff cyn taro foli mor berffaith nôl ar draws y gôl yn arbennig.
4. David Cotterill (BIRMINGHAM v Nottingham Forest, 29/11/14)
Mi fysa Gareth Bale yn falch o roi gôl fel hon ymysg ei oreuon – ergyd wych gan Dave Cotterill ar ei droed chwith i Birmingham yn erbyn Forest y tymor yma.
Mae’r ergyd yn crymanu’n wych cyn canfod cornel bellaf y rhwyd, ac mae gôl lle mae’r bêl yn taro’r trawst wrth fynd mewn wastad yn edrych yn dda hefyd!
3. Emyr Huws (BIRMINGHAM v Middlesbrough, 9/4/14)
Mi wnewch chi sylwi wrth wylio’r clip yma mai Emyr Huws sy’n cymryd y gic gornel, cyn rhedeg i nôl y bêl ar ôl iddi gael ei chlirio.
Roedd Birmingham yn colli 2-0 ar y pryd, ac mae’n debyg fod ‘na fai ar Huws am un o’r goliau.
Does dim esboniad arall pam benderfynodd y gŵr 20 oed oedd ar fenthyg o Man City danio ergyd o’r pellter yma – ond mae hi’n un hyfryd, yn syth fel bwled, ac yn llawn haeddu ei lle yn ein deg uchaf.
2. Gareth Bale (REAL MADRID v Barcelona, 16/4/14)
Mae’r gôl yma yn cael lle haeddiannol yn y deg uchaf ar sail yr achlysur llawn cymaint â’r gôl ei hun.
Roedd hi’n 1-1 rhwng Real Madrid a Barcelona yn ffeinal y Copa del Rey, a chwta bum munud i fynd, pan redodd Bale o hanner ei hun a sgorio’r gôl wych yma.
Mae hyd yn oed yn fwy trawiadol o ystyried fod Bale mwy neu lai yn cael ei wthio o’r cae gan Marc Bartra cyn cario ‘mlaen â’i rediad – wrth gwrs, mi roedd o eisoes wedi ymarfer sgorio gôl fel hon i Gymru yn gynharach yn y flwyddyn.
1.Aaron Ramsey (ARSENAL v Galatasaray, 9/12/14)
Beth sy’n wych am y gôl yma ydi’r ffordd y mae hi’n hedfan bron yn hamddenol i’r rhwyd – nid rhyw piledriver ‘di hon gan Ramsey.
Ar ei droed chwith, mae’n taro hanner foli wefreiddiol i’r gornel bellaf, ac mae hi dal yn codi wrth daro cefn y rhwyd.
O ran prydferthwch yr ergyd, does dim un yn well. Jyst edrychwch ar ymateb Wojciech Szczesny a Yaya Sanogo, ei gyd-chwaraewyr.