Bydd yr asgellwr Hanno Dirksen nôl yn nhîm y Gweilch pan fyddan nhw yn herio Racing Metro yn eu gêm dyngedfennol yng Nghwpan Pencampwyr Ewrop yfory.

Mae angen i’r Gweilch ennill ym Mharis os ydyn nhw am gynnal gobaith realistig o gyrraedd rownd nesaf y gystadleuaeth.

Dau newid sydd i dîm Steve Tandy, gyda Dirksen yn cymryd lle Tom Grabham ar yr asgell a Rynier Bernardo mewn yn lle Lloyd Peers yn yr ail reng.

Wynebu’r Cymry

Cyfartal o 19-19 oedd hi rhwng y ddau dîm yn Stadiwm Liberty yr wythnos diwethaf, gyda’r Cymry Mike Phillips a Luke Charteris yn nhîm Racing ond Jamie Roberts ddim yn y garfan.

Ac ac mae hyfforddwr y Gweilch yn disgwyl her anoddach eto pan fydd y ddau dîm yn wynebu ei gilydd draw yn Ffrainc, pwy bynnag fydd yn chwarae.

“Bydd gan Racing chwaraewyr mawr yn dod yn ôl mwyaf tebyg, ond dydyn ni ddim yn edrych arnyn nhw,” meddai Tandy.

“Rydyn ni’n edrych ar ein paratoadau ein hunain, ein cynllun gêm ni, i sicrhau ein bod ni’n barod.

“Rydyn ni’n gwybod beth sydd yn y fantol, ac fe awn ni i Le Mans i fwynhau’r profiad gan gofio bod rhaid i ni fod ar ein gorau. Unrhyw beth yn llai, ac fe fyddwn ni mewn trwbl.”

Tîm y Gweilch: Dan Evans, Hanno Dirksen, Ashley Beck, Josh Matavesi, Eli Walker, Dan Biggar, Rhys Webb; Marc Thomas, Scott Baldwin, Dmitri Arhip, Rynier Bernardo, Alun Wyn Jones (capt), James King, Justin Tipuric, Tyler Ardron.

Eilyddion: Sam Parry, Gareth Thomas, Daniel Suter, Olly Cracknell, Sam Lewis, Martin Roberts, Sam Davies, Andrew Bishop.