Mae’r Scarlets wedi gwneud tri newid i’w tîm i herio Ulster, mewn gêm y mae’n rhaid iddyn nhw ennill os ydyn nhw am gyrraedd rownd nesaf Cwpan Pencampwyr Ewrop.
Bydd Kristian Phillips yn dychwelyd ar yr asgell, Rhodri Williams yn gwisgo’r crys rhif naw, a Rob McCusker yn dod i mewn fel wythwr.
Mae’r cefnwr sydd wedi arwyddo o Seland Newydd yn ddiweddar, Hadleigh Parkes, ymysg y rheiny sydd ar y fainc.
Pivac yn hyderus
Dyw’r blaenasgellwr John Barclay heb wella o hematoma i’w glun mewn pryd ar gyfer y gêm, ac mae Phil John, Ken Owens a Gareth Davies i gyd allan ag anafiadau hefyd.
Serch hynny, mae prif hyfforddwr y Scarlets Wayne Pivac yn hyderus y gall ei dîm roi hwb i’w siawns o gyrraedd rownd nesaf y gystadleuaeth wrth ennill ar Barc y Scarlets prynhawn Sul.
“Rydyn ni’n gwybod y gallwn ni ennill gartref, dydyn ni heb gael unrhyw broblemau o ran egni a ffocws y bechgyn,” meddai Pivac.
“Dim ond buddugoliaeth sydd ynddi rhwng top a gwaelod [y grŵp] ac mae’n tynged ni dal yn ein dwylo ni.”
Tîm y Scarlets: Liam Williams, Kristian Phillips, Regan King, Scott Williams (capt), Michael Tagicakibau, Rhys Priestland, Rhodri Williams; Rob Evans, Emyr Phillips, Samson Lee, Jake Ball, Johan Snyman, Aaron Shingler, James Davies, Rob McCusker.
Eilyddion: Kirby Myhill, Wyn Jones, Rhodri Jones, George Earle, Rory Pitman, Aled Davies, Steven Shingler, Hadleigh Parkes.