Fe fydd capten Cymru Sam Warburton yn dychwelyd i dîm y Gleision er mwyn wynebu’r Gwyddelod Llundain yng Nghwpan Her Ewrop yfory.

Mae’r canolwr Gavin Evans hefyd yn chwarae am y canfed tro dros y rhanbarth o Gaerdydd, wrth iddyn nhw deithio i Reading.

Fe fydd y Gleision yn ceisio trechu Gwyddelod Llundain am yr ail waith o fewn wythnos, ar ôl ennill 24-14 ym Mharc yr Arfau BT Sport y penwythnos diwethaf.

Un newid

Warburton yw’r unig newid i’r tîm ar gyfer y penwythnos hwn, wrth i’r Gleision geisio aros ar frig Grŵp Un.

Ond fe ddywedodd cyfarwyddwr rygbi’r Gleision Mark Hammett y gallai’r tîm wella o hyd, ac nad ydyn nhw’n saff o’u lle yn y rownd nesaf eto.

“Mae’n wych bod ar frig Grŵp Un ar ôl tair gêm ond dydyn ni ddim wedi cyflawni unrhyw beth eto ac mae gennym ni dair gêm galed cyn y gallwn ni hyd yn oed feddwl am y rownd nesaf,” mynnodd Hammett.

“Dydyn ni dal heb roi perfformiad 80 munud eto, ac rydyn ni’n gweithio’n galed i wneud hynny. Dyna yw’r her i ni, mae’n rhaid i ni fod mwy cyson o hyn ‘mlaen.”

Tîm y Gleision: Adam Thomas, Alex Cuthbert, Cory Allen, Gavin Evans, Richard Smith, Gareth Anscombe, Lloyd Williams; Gethin Jenkins, Matthew Rees (capt), Adam Jones, Filo Paulo, Josh Turnbull, Macauley Cook, Sam Warburton, Josh Navidi.

Eilyddion: Kristian Dacey, Sam Hobbs, Craig Mitchell, Ellis Jenkins, Manoa Vosawai, Lewis Jones, Gareth Davies, Dan Fish.