Fe allai Aaron ‘Rambo’ Ramsey dreulio wythnosau ar y cyrion wedi i reolwr Arsenal gyfaddef nad yw’n gwybod pryd y bydd anaf i linyn y gâr y Cymro yn gwella.
Cafodd Ramsey ei eilyddio nos Fawrth yn erbyn Galatasaray ar yr egwyl rhag ofn i’w anaf waethygu, a hynny ar ôl iddo sgorio gôl wefreiddiol.
Dywedodd y Cymro ar ôl y gêm y byddai’n holliach erbyn y penwythnos – ond mae Arsene Wenger nawr wedi codi amheuon ynglŷn â hynny.
Allan dros y Dolig?
Mae Arsenal yn herio Newcastle yn yr Uwch Gynghrair ddydd Sadwrn, ac fe ddywedodd Ramsey ei fod yn disgwyl bod yn ffit ar gyfer y gêm honno.
Ond mae Wenger wedi datgelu bod disgwyl i’r chwaraewr 23 oed wynebu cyfnod ar yr ystlys.
“Fe gawson ni’r sgan neithiwr, dydw i ddim yn gwybod digon i allu dweud yn union pa mor wael yw’r anaf,” meddai Wenger.
Newydd ddechrau ailddarganfod ei sbarc y mae Ramsey ar ôl dechrau’r tymor yn araf, gan sgorio dwy gôl yn erbyn Galatasaray yr wythnos hon i ychwanegu at y foli felys a rwydodd yn erbyn Stoke y Sadwrn diwethaf.
Mae’r Cymro eisoes wedi methu gemau oherwydd anaf i linyn y gâr y tymor hwn, ac yn gynharach eleni fe fethodd dri mis oherwydd anaf i gyhyr yn ei goes.
Nid fo ydi’r unig chwaraewr Arsenal sydd wedi bod yn dioddef o broblemau gydag anafiadau chwaith – mae Jack Wilshere, Laurent Koscielny a Nacho Monreal i gyd wedi eu hanafu ar hyn o bryd hefyd.