Taulupe Faletau
Bydd Cymru Taulupe Faletau yn dychwelyd i garfan y Dreigiau ar gyfer eu gêm yn erbyn Bleiddiau Bucharest yng Nghwpan Her Ewrop nos fory.

Cafodd yr wythwr ei orffwys am y gêm ddiwethaf, ar ôl chwarae dros Gymru yng nghyfres yr hydref.

Mae Hallam Amos yn un o dri newid i dîm y Dreigiau a enillodd o 37-10 yn Rwmania’r penwythnos diwethaf.

Fe fyddan nhw yn herio’r un gwrthwynebwyr nos Wener yn Rodney Parade, wrth iddyn nhw geisio sicrhau lle yn rownd nesaf y gystadleuaeth.

Newidiadau

Tri newid sydd i’r pymtheg fydd yn dechrau i’r Dreigiau, gyda’r asgellwr Hallam Amos, y mewnwr Jonathan Evans a’r prop Phil Price yn dod i mewn i’r tîm.

Bydd Matthew Pewtner yn dechrau ar yr asgell nos fory gyda Tom Prydie yn symud i safle’r cefnwr a Geraint Rhys Jones ar y fainc.

Yn ogystal â Faletau, mae’r clo Rynard Lyndman hefyd nôl ar y fainc ar ôl bod allan ag anaf.

Tîm y Dreigiau: Tom Prydie, Matthew Pewtner, Ross Wardle, Ashley Smith, Hallam Amos, Jason Tovey, Jonathan Evans; Phil Price, T. Rhys Thomas, Brok Harris, Andrew Coombs, Cory Hill, James Thomas, Nic Cudd, Lewis Evans (capt)

Eilyddion: Elliot Dee, Owen Evans, Dan Way, Rynard Landman, Taulupe Faletau, Luc Jones, Dorian Jones, Geraint Rhys Jones