Mae Undeb Rygbi Cymru (URC) wedi awgrymu nad oes unrhyw beth o’i le hefo canu’r gân ‘Delilah’ yn ystod gemau rygbi, wedi i Dafydd Iwan gwyno fod y geiriau yn “anfoesol” ac yn dilorni merched.
Cafodd galwad cyn-lywydd Plaid Cymru ei ategu gan Christine Chapman, cadeirydd Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol y Cynulliad, a ddywedodd wrth golwg360 bod angen newid y geiriau a’u gwneud yn fwy “modern.”
Ond yn ôl llefarydd o’r undeb, cerddoriaeth cân eiconig Tom Jones, ‘Delilah’, sydd wedi ei gwneud yn boblogaidd, yn hytrach na’r stori sy’n cael ei hadrodd ynddi:
“O fewn rygbi, mae ‘Delilah’ wedi ennill ei lle fel cân amlwg trwy ei cherddoriaeth yn fwy na’r geiriau. Ond mae digon o gynsail o fewn y celfyddydau, yn benodol yng ngwaith Shakespeare, i bortreadu agweddau negyddol o fywyd,” meddai.
“Mae URC yn condemnio trais yn erbyn merched ac wedi cymryd rôl flaenllaw yn ymgyrchoedd yr heddlu i geisio delio hefo’r mater.
“Fe fyddai’r URC yn fodlon gwrando ar unrhyw ddadl gyhoeddus gref ynglŷn ag atal canu ‘Delilah’, ond nid ydym wedi cael ein hysbysu o gefnogaeth i’r syniad.”
Ystyriaeth
Mae geiriau’r gân yn adrodd hanes dyn sy’n trywanu dynes i farwolaeth ar ôl ei gweld ym mreichiau dyn arall.
Y mis diwethaf, dywedodd Dafydd Iwan: “Y duedd yw canu caneuon heb ystyried am be mae’r gân yn sôn ac roedd hynny yn mynd trwy fy meddwl i cyn un gêm – mae o’n gymysgedd diddorol mewn un ffordd, diystyr mewn ffordd arall.
“Ond y gȃn y mae angen gofyn o ddifri a ddylai hi gael ei chydnabod fel hyn yn ein prif arena genedlaethol yw ‘Delilah’.”
Ychwanegodd Christine Chapman nad oes posib gwahardd cefnogwyr rhag canu ‘Delilah’, ond “efallai ei bod hi’n bosib newid y geiriau – eu gwneud nhw’n fwy modern.”