Gareth Warburton
Bydd yr athletwyr Gareth Warburton a Rhys Williams yn darganfod eu tynged ddydd Llun, wedi iddyn nhw fethu profion cyffuriau cyn Gemau’r Gymanwlad yn Glasgow.
Cafodd Williams ei enwi’n gapten Cymru ar gyfer y Gemau cyn cael ei wahardd ynghyd â Warburton tra bod ymchwiliad yn cael ei gynnal.
Mae’r ddau yn gwadu eu bod nhw wedi cymryd sylweddau sydd wedi cael eu gwahardd.
Gallai’r gosb ar gyfer y ddau amrywio o waharddiad o flwyddyn i waharddiad o bedair blynedd.