Ramsey yn dathlu'r gôl neithiwr (llun: AP/Emrah Gurel)
Os nad ydych chi wedi gweld hon yn barod mae’n werth ei gwylio eto – gôl wefreiddiol gan Aaron Ramsey neithiwr i Arsenal.
Gyda’i dîm eisoes 2-0 ar y blaen yn erbyn Galatasaray fe darodd y Cymro roced o ergyd a hedfanodd yn syth i gornel uchaf y rhwyd, un o goliau’r tymor heb os.
Wrth siarad â’r camerâu yn syth ar ôl y gêm, fodd bynnag, doedd Ramsey ddim yn cytuno mai honno oedd y gôl orau iddo ei sgorio erioed.
Hynny tan iddo wylio hi eto, a phenderfynu wedi’r cwbl ei bod hi’n well na’r un arall!
Oedd e’n iawn? Dyma hi’r ergyd i chi unwaith eto:
A dyma ymateb Ramsey pan ofynnodd gohebydd Sky am ei farn ar y gôl:
Cyn ei gôl wefreiddiol roedd Ramsey eisoes wedi sgorio un gôl gan rwydo yn daclus gyda’i droed chwith, ac fe orffennodd ei dîm yn fuddugol o 4-1.
Nid fe oedd yr unig Gymro i sgorio neithiwr yng Nghynghrair y Pencampwyr chwaith – fe beniodd Gareth Bale gôl ym muddugoliaeth Real Madrid o 4-0 dros Ludogorets.
Neithiwr oedd y tro cyntaf erioed i ddau Gymro sgorio ar yr un noson ym mhrif gystadleuaeth Ewrop.
Yn anffodus doedd Joe Allen methu’i gwneud hi’n dri gyda Lerpwl – dim ond gêm gyfartal 1-1 gafodd ei dîm ef, gan olygu eu bod allan o’r gwpan am yn symud i Gynghrair Ewropa.