Garry Monk
Mae Abertawe wedi cadarnhau eu bod nhw wedi apelio yn erbyn y cerdyn coch a ddangoswyd i’w golwr nhw Lukas Fabianski yn eu gêm dros y penwythnos.

Collodd yr Elyrch o 3-1 yn erbyn West Ham, ac fe gafodd Fabianski gerdyn coch am ruthro allan a rhwystro Diafra Sakho wrth i ymosodwr yr Hammers baratoi i saethu.

Fe ddigwyddodd hynny ar ôl 68 munud o’r gêm, gydag Abertawe eisoes 2-1 ar ei hôl hi, cyn i Sakho ychwanegu trydydd yn y munudau olaf.

Monk yn anhapus

Ar hyn o bryd mae Fabianski yn wynebu gwaharddiad un gêm, ac fe fydd yr Almaenwr Gerhard Tremmel mwy na thebyg yn cymryd ei le yn y gôl am y gêm honno.

Ond fe ddywedodd rheolwr Abertawe yn syth ar ôl y gêm ei fod yn disgwyl i’r clwb apelio yn erbyn y penderfyniad i anfon y golwr o Wlad Pwyl o’r maes.

Mynnodd Garry Monk fod Sakho wedi llawio’r bêl cyn y digwyddiad, ac nad oedd trosedd Fabianski yn erbyn yr ymosodwr wedi atal cyfle clir i sgorio.

Mae disgwyl i’r Uwch Gynghrair wneud penderfyniad am yr apêl cyn dydd Sul, pan fydd Abertawe yn chwarae Spurs gartref.