Dan Lydiate
Mae Undeb Rygbi Cymru wedi cadarnhau heddiw fod y blaenasgellwr Dan Lydiate wedi arwyddo i’r Gweilch ar gytundeb deuol.
Lydiate yw’r ail chwaraewr i arwyddo cytundeb o’r fath gyda’r Undeb Rygbi ac un o’r rhanbarthau, wedi i gapten Cymru Sam Warburton wneud hynny yn gynharach eleni.
Bydd Lydiate yn ymarfer â’r Gweilch yr wythnos hon ond ni fydd ar gael ar gyfer eu gêm ar y penwythnos yn erbyn ei gyn-glwb, Racing Metro.
“Mae cael cytundeb deuol cenedlaethol yn rhoi’r sicrwydd sydd angen arnai ar gyfer fy nyfodol,” meddai Lydiate wrth gadarnhau’r newyddion yr oedd llawer wedi’i ddyfalu eisoes.
“Byddai nawr yn gallu canolbwyntio 100% ar fy rygbi.”
Gadael Racing
Fe arwyddodd Lydiate i glwb Racing Metro yn Ffrainc nôl yn 2013, ar ôl saith mlynedd gyda rhanbarth y Dreigiau.
Ond ym mis Hydref fe gyhoeddodd y clwb o Ffrainc eu bod wedi cytuno i ddiddymu cytundeb Lydiate, a gadael iddo ddychwelyd i Gymru.
Mae’r Gweilch wedi cadarnhau fodd bynnag na fydd Lydiate yn y tîm fydd yn teithio i Baris i herio Racing Metro dros y penwythnos, ond y bydd ar gael ar ôl hynny.
Cytundeb deuol
Mae Dan Lydiate yn un o ddeuddeg chwaraewr sydd wedi cael cynnig cytundeb deuol gan yr Undeb Rygbi i geisio eu cadw yng Nghymru, ac mae disgwyl i ragor o chwaraewyr arwyddo rhai dros yr wythnosau nesaf.
Y bwriad yw rhannu’r gost o gyflogi’r chwaraewyr rhwng y rhanbarthau a’r Undeb, gan olygu bod sêr mawr yn gallu aros yng Nghymru a’u bod nhw hefyd yn gallu treulio digon o amser gyda’r tîm rhyngwladol.
Yn ôl y cytundeb rhwng y rhanbarthau a’r Undeb mae disgwyl i chwaraewyr arwyddo i’r un rhanbarth ag yr oedden nhw’n chwarae iddi gynt.
Ond fe ddywedodd y Gweilch bod Dan Lydiate wedi dewis chwarae drostyn nhw yn hytrach na’r Dreigiau am “resymau teuluol”, a’i fod wedi trafod y peth â’i gyn-ranbarth.