Fe fydd Wrecsam yn teithio i Stoke o Uwch Gynghrair Lloegr yn nhrydedd rownd Cwpan yr FA, ar ôl i’r enwau gael eu dewis neithiwr.

Bydd Abertawe’n teithio un ai i Rydychen neu Tranmere, dau dîm o Gynghrair Dau, yn dibynnu ar ba un ohonyn nhw fydd yn ennill y gêm sydd yn cael ei hailchwarae o’r ail rownd.

Mae gan Gaerdydd gêm gartref yn erbyn Colchester o Gynghrair Un.

Arian mawr

Fe enillodd Wrecsam o 3-1 yn erbyn Maidstone United i gyrraedd y drydedd rownd, ac maen nhw wedi cael eu gwobrwyo â gêm enfawr yn erbyn tîm sydd bedair adran yn uwch na nhw.

Mae nifer o gysylltiadau rhwng y ddau glwb hefyd, gan fod rheolwr Stoke Mark Hughes yn wreiddiol o ardal Wrecsam.

Mae golwr Stoke Daniel Bachmann hefyd ar fenthyg yn Wrecsam ar hyn o bryd, ac mae cyn-ymosodwr Wrecsam Jon Walters bellach yn chwarae yn Stadiwm Britannia.

Yn ogystal â bod yn gyfle prin i chwarae tîm o’r adran uchaf yn Lloegr, fe fydd y gêm yn dod â llawer o arian i goffrau clwb fel Wrecsam.

Fe fyddan nhw yn derbyn cyfran sylweddol o arian y tocynnau fydd yn cael eu gwerthu yn stadiwm Stoke ar ddiwrnod y gêm, yn ogystal â rhagor o arian os yw’r gêm yn cael ei darlledu ar y teledu.

“Gobeithio y bydd refeniw mewn mwy nag un ffordd a fy ngobaith i yw ei bod hi’n ddiwrnod y gall y cefnogwyr fwynhau,” meddai rheolwr Wrecsam Kevin Wilkin.

“Cwpan yr FA yw hwn ac fe allwn ni dal i freuddwydio.”