Geraint Thomas yng Ngemau'r Gymanwlad eleni
Y beiciwr Geraint Thomas sydd wedi cipio gwobr Personoliaeth Chwaraeon Cymru 2014 y BBC, ar ôl i ganlyniad y bleidlais gyhoeddus gael ei gyhoeddi neithiwr.
Cipiodd Thomas y wobr o flaen y gymnastwraig Frankie Jones, a ddaeth yn ail, a’r feicwraig mynydd Manon Carpenter oedd yn drydydd.
Tîm Gemau’r Gymanwlad Cymru gipiodd wobr Tîm y Flwyddyn, ac fe gafodd Jo Coombs wobr Hyfforddwr y Flwyddyn am arwain tîm gymnasteg Cymru i wyth medal yng Ngemau Glasgow.
Tour de France a Glasgow
Roedd 2014 yn flwyddyn ddisglair tu hwnt i Geraint Thomas, a gwblhaodd ras y Tour de France eleni mewn amgylchiadau heriol tu hwnt.
Dyddiau yn ddiweddarach roedd yn ôl ar ei feic yng Ngemau’r Gymanwlad, gan gipio medal efydd yn y ras amser.
Yna ar ddiwrnod olaf y cystadlu fe lwyddodd Thomas i gipio medal aur yn y ras ffordd, a orffennodd yn y modd mwyaf dramatig posib ar ôl i’r Cymro gael pyncjar i’w feic ar ei lap olaf a gorfod ei newid yn sydyn.
Doedd y beiciwr ddim yn medru bod yn y seremoni yng Nghaerdydd i gasglu ei wobr gan ei fod ffwrdd yn ymarfer yn Mallorca.
Ond fe ddywedodd mewn fideo i dderbyn y wobr pa mor falch yr oedd o gael cipio’r medalau yng Nglasgow wrth wisgo crys Cymru.
Deg ar y rhestr fer
Daeth Frankie Jones yn ail ar ôl cipio pum medal arian ac un fedal aur yng nghystadlaethau gymnasteg Gemau Glasgow.
Yn drydydd roedd Manon Carpenter, a enillodd gyfres Cwpan y Byd Beicio Mynydd Lawr Rhiw, yn ogystal â chipio medal aur ym Mhencampwriaeth Beicio Mynydd Lawr Rhiw’r Byd.
Y saith arall ar y rhestr fer oedd y pêl-droediwr Gareth Bale, y nofwyr Jazz Carlin a Georgia Davies, y golffiwr Jamie Donaldson, y beicwyr Elinor Barker a Rachel James, a’r ymladdwraig jiwdo Natalie Powell.
Enillwyr eraill
Cafodd nifer o wobrau eraill eu dosbarthu yn ystod y noson wobrwyo hefyd, gan gynnwys Gwobr Cyfraniad Oes i’r chwaraewr snwcer Terry Griffiths.
Enillodd Terry Grey wobr Cyfraniad Oes yn y Gymuned am ei waith mewn bocsio yn ardal Gwent, a Dinna Marshall o Glwb Rygbi Ffynnon Taf gipiodd y wobr Gwirfoddolwr y Flwyddyn.
Cipiodd y rhedwr clwydi David Omoregie a’r gymnastwraig Laura Halford wobrau chwaraeon Carwyn James, ac fe gafodd Paul Jenkins wobr Hyfforddwr Anabl y Flwyddyn am ei waith gyda thîm rygbi cadair olwyn Prydain.