Mae pryderon dros ffitrwydd Liam Williams a James Davies ar ôl i’r ddau ohonyn nhw gael eu hanafu wrth chwarae i’r Scarlets dros y penwythnos.

Fe gollodd y Scarlets o 24-9 yn erbyn Ulster yng Nghwpan Pencampwyr Ewrop dydd Sadwrn, ac maen nhw’n herio’r un gwrthwynebwyr ar Barc y Scarlets dydd Sul.

Cafodd Williams glec i’w goes wrth geisio atal Tommy Bowe rhag sgorio cais, tra bod y blaenasgellwr Davies wedi troi ei bigwrn.

Asesu’r difrod

Fe fydd tîm meddygol y Scarlets yn asesu anafiadau’r ddau’r wythnos hon, yn y gobaith y byddwn nhw’n medru chwarae ar ddydd Sul.

Fe fydd yn rhaid i’r Scarlets drechu Ulster bryd hynny os ydyn nhw am unrhyw siawns o gyrraedd rownd nesaf y gwpan.

Ac fe fynnodd capten y Scarlets Scott Williams bod angen i’r tîm wella yn sylweddol os ydyn nhw am gipio’r pwyntiau.

“Roedd gormod o gamgymeriadau unigol, ciciau cosb a thaclau wedi eu methu,” meddai Scott Williams.

“Fe gawson ni ein cosbi gan Ulster a ni ffaelu fforddio gadael iddyn nhw wneud hynny. Does dim angen dweud llawer mwy – ymateb sydd angen nawr mwy na geiriau. Ni angen perfformiad mawr ar y penwythnos.”