Owen Williams yn chwarae dros Gaerlŷr (llun: Nigel French/PA)
Mae pethau’n parhau yn agos yng Ngrŵp 5 Cwpan Pencampwyr Ewrop ar ôl i’r Gweilch gipio gêm gyfartal hwyr yn erbyn Racing Metro, oedd â Mike Phillips fel mewnwr a Luke Charteris ar y fainc.

Ni chwaraeodd George North i Northampton wrth iddyn nhw drechu Treviso i aros ar frig y tabl, yn hafal ar bwyntiau â Racing a thri o flaen y Gweilch.

Ciciodd Owen Williams ugain pwynt i Gaerlŷr i sicrhau buddugoliaeth werthfawr tu hwnt yn erbyn Toulon a chau’r bwlch ar frig Grŵp 3.

Trosodd y maswr gais a phum cic gosb wrth i’w dîm ennill 25-21, gan olygu mai pwynt yn unig y tu ôl i Toulon y maen nhw bellach.

Chwaraeodd Bradley Davies i Wasps wrth iddyn nhw sicrhau eu buddugoliaeth gyntaf yn y twrnament gan drechu Castres 32-17 yng Ngrŵp 2.

Mae siawns Sale o gyrraedd y rownd nesaf bellach ar ben ar ôl i dîm Eifion Lewis-Roberts, Marc Jones, Jonathan Mills a Nick MacLeod golli am y trydydd tro yng Ngrŵp 1, y tro hwn o 15-19 yn erbyn Saracens.

Yng ngêm arall y grŵp fe ddaeth Jonathan Davies oddi ar y fainc i Clermont wrth iddyn nhw sicrhau buddugoliaeth hollbwysig o 9-16 i ffwrdd yn Munster sydd yn eu codi nhw i’r brig.

Ac yn y gêm nos Wener yng Ngrŵp 4 fe ddechreuodd Dominic Day a daeth Paul James oddi ar y fainc i Gaerfaddon wrth iddyn nhw ennill yn gyfforddus o 30-5 yn erbyn Montpellier.

Cwpan Her Ewrop

Y Gleision sydd bellach ar frig Grŵp 1 ar ôl iddyn nhw drechu Gwyddelod Llundain gartref o 24-14, gydag Andy Fenby a Darren Allinson yn nhîm yr ymwelwyr.

Dechreuodd James Hook fel maswr i Gaerloyw unwaith eto wrth iddyn nhw drechu Zebre yn gyfforddus o 35-10 i aros ar frig Grŵp 5.

Chwaraeodd Warren Fury i Newcastle wrth iddyn nhw aros ar frig Grŵp 3 gyda buddugoliaeth o 30-23 dros Stade Francais.

Colli eto yng Ngrŵp 4 oedd hanes Cymry Llundain yn erbyn Caeredin o 25-13, gyda Nic Reynolds yn dechrau a Rob Lewis yn dod oddi ar y fainc.

Ac yn y gêm nos Iau fe ddechreuodd Tom James ac Adam Hughes i Gaerwysg wrth iddyn nhw drechu La Rochelle 36-10 yng Ngrŵp 2, gyda Hughes yn sgorio cais agoriadol ei dîm.

Seren yr wythnos – Owen Williams. Y cicio cywir yn sicrhau buddugoliaeth allweddol i Gaerlŷr.

Siom yr wythnos – Jamie Roberts. Wedi’i adael allan o dîm Racing Metro ar gyfer eu trip i Gymru.