Aaron Ramsey a'i gyd-chwaraewyr ar ôl i Stoke sgorio'r drydedd (llun: Mike Egerton/PA)
Chwaraeodd Gareth Bale gêm lawn i Real Madrid dros y penwythnos, ond dim syndod i weld mai Ronaldo gipiodd y penawdau i gyd unwaith eto gyda hat-tric i drechu Celta de Vigo 3-0.

Canlyniad digon siomedig gafodd Aaron Ramsey ac Arsenal yn yr Uwch Gynghrair fodd bynnag, er i’r Cymro sgorio foli hyfryd i’w dîm yn erbyn Stoke.

Roedd y Gunners 3-0 ar ei hôl hi ar yr egwyl, cyn i goliau gan Cazorla a Ramsey wneud y sgôr ychydig yn fwy parchus, ond yn y diwedd colled arall oedd hi i Arsenal yn Stadiwm Britannia.

Dechreuodd Ashley Williams a Jazz Richards yn yr amddiffyn i Abertawe wrth iddyn nhw golli 3-1 i West Ham, gyda James Collins yn dod i’r cae am y pum munud olaf i’r tîm cartref.

Colli oedd hanes Caerlŷr hefyd, er na ddaeth Andy King oddi ar y fainc wrth i’w dîm gael eu trechu 2-1 gan Aston Villa.

Cafodd Paul Dummett gêm gofiadwy arall i Newcastle wrth i’w dîm ennill 2-1 yn erbyn Chelsea – y Magpies yw’r tîm cyntaf i’w curo nhw yn y gynghrair y tymor hwn.

Chwaraeodd Ben Davies gêm lawn wrth i amddiffyn Spurs gadw llechen lan mewn gêm ddi-sgôr yn erbyn Crystal Palace, a doedd dim goliau chwaith rhwng Hull a West Brom wrth i James Chester gael 90 munud.

Y Bencampwriaeth

Di-sgôr oedd hi hefyd rhwng Caerdydd a Rotherham, gyda Craig Morgan a Tom Lawrence yn nhîm yr ymwelwyr, a Lawrence yn cael clod gan ei reolwr am berfformiad da yn ei gêm gyntaf ar fenthyg yno o Gaerlŷr.

Doedd dim goliau rhwng Reading a Bolton wrth i bedwar Cymro ymddangos ar y cae – Chris Gunter, Jake Taylor a Hal Robson-Kanu i’r tîm cartref, a Craig Davies i’r ymwelwyr.

Dave Edwards oedd yr unig Gymro i chwarae dros Wolves wrth iddyn nhw gael eu trechu 2-1 gartref gan Bournemouth.

Daeth George Williams ar y cae am 30 munud i Fulham nos Wener gyda’i dîm eisoes 4-0 ar ei hôl hi yn erbyn Watford – fe orffennodd hi’n 5-0.

Roedd Dave Cotterill a Morgan Fox hefyd ymysg y Cymry gafodd gêm i’w clybiau, ond dim cystal lwc i Emyr Huws oedd ar fainc Wigan unwaith eto.

Yng Nghynghrair yr Alban cafodd Adam Matthews gêm lawn wrth i Celtic symud i frig y tabl gyda buddugoliaeth o 1-0 dros Motherwell, ac fe beniodd Ash Taylor gôl agoriadol Aberdeen wrth iddyn nhw drechu Hamilton 3-0.

Ac yng Nghwpan FA Lloegr fe sicrhaodd gôl Jason Koumas gêm gyfartal i Tranmere yn erbyn Oxford United, a lle yn yr het ar gyfer y rownd nesaf.

Seren yr wythnos – Tom Lawrence. Ei reolwr yn Rotherham, Steve Evans, yn credu y dylai fod yn chwarae ar lefel uwch ar sail ei berfformiad dydd Sadwrn.

Siom yr wythnos – Ashley Williams. Fydd o ddim yn hapus gweld ei dîm yn ildio tair, gan golli’r frwydr yn yr awyr yn erbyn Andy Carroll.