Aberystwyth 2–0 Y Rhyl
Aberystwyth aeth â hi wrth i’r Rhyl ymweld â Choedlan y Parc yn Uwch Gynghrair Cymru brynhawn Sul.
Sgoriodd Craig Williams a Chris Venables ddwy gôl dda o fewn chwarter awr i’w gilydd yn yr hanner cyntafac roedd hynny’n hen ddigon i gipio’r tri phynt.
Cafodd y Rhyl gyfle cynnar i fynd ar y blaen ond peniodd Mark Cadwallader heibio’r postyn.
Roedd yna wynt cryf tu ôl i Aberystwyth yn yr hanner cyntaf a buan iawn y dechreuodd y tîm cartref reoli.
Roeddynt ar y blaen wedi ychydig mwy nag ugain munud pan redodd Williams i mewn o’r chwith a chladdu ergyd dda yn y gornel uchaf.
Roedd hi’n ddwy ddeg munud cyn yr egwyl ac roedd hon yn gôl cystal os nad gwell. Cic rydd o 25 llath oedd hi ac anelodd chwaraewr gorau Uwch Gynghrair Cymru, Venables, y bêl i’r un gornel uchaf ag yr aeth cynnig Williams.
Honno oedd gôl rhif 99 Venables yn yr Uwch Gynghrair a chafodd gyfle gwych i rwydo’i ganfed toc cyn yr egwyl ond peniodd dros y trawso dair llath!
Aber oedd y tîm gorau yn yr ail gyfnod hefyd ond cafwyd llai o gyfleoedd. Daeth y cyfle gorau i Stephen Wright ar yr awr ond peniodd yr amdiffynnwr profiadol heibio’r postyn.
Mae’r canlyniad yn codi Aber i’r trydydd safle yn nhabl yr Uwch Gynghrair, tra mae’r Rhyl yn aros yn ddegfed.
.
Aberystwyth
Tîm: Lewis, Davies, Wright, S. Jones, Batley, James, Sherbon, Kellaway, Venables, Williams, M. Jones
Goliau: Williams 21’, Venables 36’
Cardiau Melyn: Sherbon 30’, Wright 52’, Jones 71’
.
Y Rhyl
Tîm: Ramsay, Woodward, Halewood, Astles, Benson, Makin (Kenny 77’), Stones (Dawson 66’), Cadwallader, Gossett, Forbes (Stott 66’), Bowen
Cardiau Melyn: Makin 39’, Halewood 61’, Astles 88’
.
Torf: 306