West Ham 3–1 Abertawe
Colli fu hanes Abertawe wrth iddynt ymweld â Pharc Upton i herio West Ham brynhawn Sul.
Er i’r Elyrch fynd ar y blaen, fe newidiodd y gêm yn dilyn cerdyn coch Lukasz Fabianski wrth i’r tîm cartef daro nôl gyda thair gôl.
Ychydig llai nag ugain munud oedd wedi mynd pan rwydodd Wilfred Bony’r gôl agoriadol yn dilyn gwaith creu Jefferson Montero.
Roedd West Ham yn gyfartal toc cyn yr egwyl wedi i Andy Carroll benio croesiad Carl Jenkinson i gefn y rhwyd.
Y tîm cartref oedd y tîm gorau wedi hynny ond bu bron i Bony roi Abertawe yn ôl ar y blaen yn erbyn llif y chwarae pan ergydiodd yn erbyn y trawst ar ddechrau’r ail hanner.
Aeth West Ham ar y blaen pan rwydodd Carroll ei ail gôl gyda pheniad arall o gic gornel Stuart Downing.
Bu rhaid i’r Elyrch chwarae chwarter olaf y gêm gyda deg dyn yn dilyn cerdyn coch i’r gôl-geidwad, Fabianski, am drosedd ar Diafra Sakho.
Roedd y tri phwynt yn ddiogel dri munud o’r diwedd pan sgoriodd Sakho, gyda Carroll yn gyfrifol am y gwaith creu y tro hwn.
Mae’r canlyniad yn codi West Ham i’r trydydd safle yn nhabl yr Uwch Gynghrair tra mae Abertawe’n llithro i’r wythfed safle.
.
West Ham
Tîm: Aadrián, Jenkinson (O’Brien 79′), Tomkins, Reid, Cresswell, Song, Kouyaté (Collins 86′), Downing, Nolan, Carroll, Valencia (Sakho 45′)
Goliau: Carroll 41’, 66’, Sakho 87’
.
Abertawe
Tîm: Fabianski, Rangel (Dyer 86′), Bartley, Williams, Richards, Britton (Tremmel 71′), Ki Sung-yueng, Routledge, Sigurdsson, Montero (Gomis 75′), Bony
Gôl: Bony 19’
Cerdyn Melyn: Routledge 50’
Cerdyn Coch: Fabianski 68’
.
Torf: 34,125