Medal aur i Owain Doull
Roedd y Cymro, Owain Doull, yn aelod o dim Prydain a gipiodd fedal aur ym mhencampwriaethau seiclo’r byd yn Llundain ddoe.
Roedd y beiciwr 21 oed o Gaerdydd yn cystadlu gyda’i bartner rasio, Mark Christian, pan gawson nhw’r gorau ar Seland Newydd a ddaeth yn ail, a’r Almaen a orffennodd y ras yn drydydd.
Ymysg yr enillwyr medalau eraill yng Nghwpan y Byd y mae Elinor Barker, a ddaeth yn fuddugol yn y ras bwyntiau i ferched.
Heddiw, ar drydydd diwrnod y cystadlu, mae gan Brydain gyfanswm o dair medal ac un fedal efydd, gyda rhai rasus yn dal i’w reidio cyn y clo heno.