Wrecsam 3 – 1 Maidstone United
Mae enw Wrecsam yn yr het ar gyfer trydydd rownd Cwpan FA Lloegr wedi buddugoliaeth yn erbyn 10 dyn Maidstone.
Roedd Wrecsam yn arwain o gôl i ddim ar hanner amser diolch i foli Manny Smith wedi 19 munud.
Dyblwyd y fantais wedi 57 wrth i Andy Bishop rwydo o’r smotyn, wedi trosedd Aaron Simpson ar Wes York yn y cwrt. Gwelodd Simpson gerdyn coch am ei drosedd.
Chwarae teg i’r ymwelwyr, fe wnaethon nhw ymladd yn ôl a bachu gôl diolch i Alex Flisher chwe munud yn ddiweddarach.
Roedd yn hanner awr olaf nerfus i’r gêm i Wrecsam felly, ond seliodd Bishop y fuddugoliaeth gyda’i ail o beniad gyda thair munud yn weddill o’r 90.
Bydd Wrecsam yn cael gwybod pwy fydd eu gwrthwynebwyr yn y rownd nesaf nos Lun, 8 Rhagfyr.
Tîm Wrecsam: Jon Flatt, White, Smith, Hudson, Ashton; Carrington, Clarke, Harris, York, Bishop, Jennings
Eilyddion: Gray, Hunt, Tomassen, Pearson, Durrell, Moult, Rushton
Torf: 3,093