Gleision Caerdydd 24–14 Gwyddelod Llundain
Mae rhediad gwych y Gleision yng Nghwpan Sialens Ewrop yn parhau wedi iddynt drechu Gwyddelod Llundain ar Barc yr Arfau brynhawn Sadwrn.
Mae gan y Gleision bymtheg pwynt allan o dair gêm yng Ngrŵp 1 wedi i geisiau Richard Smith, Lloyd Williams, Gareth Anscombe a Kristian Dacey sicrhau buddugoliaeth a phwynt bonws yn y gêm hon.
Yr ymwelwyr ddechreuodd orau serch hynny wrth i Geoff Cross groesi am gais cynnar, ond roedd y Gleision yn gyfartal o fewn dim wedi i’r asgellwr, Smith, sgorio, saith pwynt yr un wedi deg munud.
Felly yr arhosodd hi tan yr egwyl ac am hanner cyntaf yr ail hanner hefyd cyn i’r gêm newid yn llwyr mewn cyfnod o funud toc wedi’r awr.
Croesodd Lloyd Williams i ddechrau am ail gais y Gleision cyn i Anscombe, a oedd newydd ddychwelyd i’r cae yn dilyn deg munud yn y gell gosb, sgorio’r trydydd.
Roedd y fuddugoliaeth a’r pwynt bonws yn ddiogel dri munud o ddiwedd yr wyth deg diolch i Dacey a chais cysur yn unig oedd cais cosb hwyr y Gwyddelod.
Mae’r canlyniad yn cadw’r Gleision ar frig Grŵp 1, bum pwynt yn glir o’r Gwyddelod yn yr ail safle.
.
Gleision
Ceisiau: Richard Smith 11’, Lloyd Williams 64’, Gareth Anscome 64’, Kristian Dacey 77’
Trosiadau: Gareth Anscombe 11’, 78’
Cardiau Melyn: Matthew Rees 21’, Gareth Anscombe 48’
.
Gwyddelod Llundain
Ceisiau: Geoff Cross 9’, Cais Cosb 80’
Trosiadau: Shane Geraghty 9’, 80’
Cerdyn Melyn: Jebb Sinclair 45’