Gweilch 19–19 Racing Metro

Gêm gyfartal a gafodd y Gweilch wrth i Racing Metro ymweld â’r Liberty yng Nghwpan Pencampwyr Ewrop brynhawn Sadwrn.

Er bod y Cymry dri phwynt ar ddeg ar ei hôl hi ar un adeg, cawsant gêm gyfartal yn y diwedd diolch i gais hwyr y gŵr o Gernyw, Joshua Matavesi.

Dechreuodd Racing y gêm yn gryf, a gyda phac y Gweilch dan bwysau doedd fawr o syndod gweld Johannes Goosen yn cicio’r ymwelwyr chwe phwynt ar y blaen.

Caeodd Biggar y bwlch i dri wedi hynny cyn i Francois van der Merwe groesi am gais cyntaf y gêm i’r Ffrancwyr. Roedd blaenwyr Racing yn rheoli o hyd ac fe osodwyd sylfaen perffaith i’r clo o Dde Affrica groesi’r gwyngalch, 3-13 wedi trosiad Goosen.

Derbynniodd James King gerdyn melyn wrth geisio atal sgarmes symudol Racing ychydig funudau’n ddiweddarach cyn i Goosen ychwanegu tri phwynt arall at y sgôr.

Gweilch sgoriodd y pwyntiau nesaf serch hynny wrth i Biggar gau’r bwlch i ddeg pwynt ac felly yr arhosodd hi tan yr egwyl.

Gwnaeth y Gweilch gêm go iawn ohoni wedyn gyda dwy gic gosb arall o droed Biggar yn hanner cyntaf yr ail hanner, 12-16 y sgôr gyda chwarter y gêm i fynd.

Llwyddodd Goosen gyda gôl adlam saith munud o’r diwedd i roi saith pwynt rhwng y timau, ond roedd y Gweilch yn gyfartal o fewn dau funud diolch i gais Matavesi a throsiad Biggar. Croesodd y canolwr yn dilyn gwaith da gan Justin Tipuric a Rhys Webb, a gwnaeth Biggar y gweddill.

Ceisiodd Goosen ei lwc gyda chynnig am gôl adlam arall o bellter, gwrthododd y Gweilch y cynnig i wrthymosodd o’u dau ar hugain eu hunain a gorffennodd y gêm yn gyfartal.

Mae’r canlyniad hwnnw yn rhoi tolc go sylweddol yng ngobeithion y Gweilch mewn gwirionedd. Maent yn drydydd yn nhabl Grŵp 1 dri phwynt y tu ôl i Racing a Northampton, gyda thaith anodd i Ffrainc yn eu haros yr wythnos nesaf.
.
Gweilch
Cais:
Joshua Matavesi 75’
Trosiad: Dan Biggar 75’
Ciciau Cosb: Dan Biggar 14’, 30’, 48’ 53’
Cerdyn Melyn: James King 26’
.
Racing Metro
Cais:
Francois van der Merwe 18’
Trosiad: Johannes Goosen 19’
Ciciau Cosb: Johannes Goosen 5’, 12’, 27’
Gôl Adlam: Johannes Goosen 73’