Caerdydd 0–0 Rotherham

Di sgôr oedd hi wrth i Rotherham ymweld â Stadiwm Dinas Caerdydd yn y Bencampwriaeth brynhawn Sadwrn.

Yn dilyn hanner cyntaf diflas di sgôr roedd yr ail gyfnod fymryn yn well. Cafodd y Cymro, Tom Lawrence hanner cyfle i’r ymwelwyr ond llwyddodd David Marshall i arbed yn gymharol gyfforddus.

Roedd Caerdydd yn well wedi i Federico Macheda ddod i’r cae yn lle Kenwyne Jones a’r blaenwr a gafodd gyfle gorau Caerdydd. Daeth Aron Gunnarsson o hyd iddo yn y cwrt cosbi ond llwyddodd Adam Collin yn y gôl i Rotherham i’w atal.

Daeth yr ymwelwyr yn agos iawn yn y pen arall bron yn syth ond peniodd Adam Revell groesiad Richard Smallwood yn erbyn y trawst.

Mae Caerdydd yn llithro i’r nawfed safle yn nhabl y Bencampwriaeth yn dilyn y canlyniad.

.
Caerdydd
Tîm:
Marshall, Connolly (Fabio 80′), Morrison, Turner, Brayford, Kim Bo-kyung, Gunnarsson, Whittingham, Noone, Jones (Macheda 66′), Le Fondre (Morrison 84′)
.
Rotherham
Tîm:
Collin, Wootton, Arnason, Morgan, James, Ledesma (Bowery 74′), Green, Smallwood, Pringle (Taylor 84′), Lawrence (Clarke-Harris 89′), Revell
.
Torf: 20,419