Bucuresti 10–37 Dreigiau Casnewydd Gwent

Cafodd y Dreigiau fuddugoliaeth oddi cartref yn erbyn Bucuresti yng Nghwpan Sialens Ewrop ddydd Sadwrn er i’r tîm cartref ddechrau’r gêm yn addawol yn Stadiwm Ghencea.

Dechreuodd Bleiddiaid Bucuresti yn wych gan fynd ddeg pwynt ar y blaen yn y chwarter awr cyntaf diolch i gais Sean Morrell a phum pwynt o droed Florin Vlaicu.

Fe dawelodd y Dreigiau’r storm wedi hynny ac roeddynt yn ôl yn gêm wedi cic gosb yr un gan Jason Tovey a Rhys Jones.

Roedd yr ymwelwyr o Gymru ar y blaen erbyn yr egwyl diolch i gais y canolwr, Ashley Smith, yn dilyn gwaith da’r blaenwyr, 10-13 yn dilyn trosiad Jones.

Dechreuodd y Dreigiau’r ail hanner dipyn gwell, gyda chais yr un i T. Rhys Thomas a James Thomas wrth i bac y Cymry ddechrau rheoli yn y deg munud agoriadol.

Sicrhaodd Cory Hill y pwynt bonws gyda phedwerydd cais toc cyn yr awr, cyn ychwanegu ei ail ef a phumed ei dîm ychydig funudau’n ddiweddarach, 10-37 y sgôr terfynol.

Mae’r canlyniad yn cadw’r Dreigiau’n ail yn nhabl Grŵp 3, dri phwynt y tu ôl i Newcastle wedi tair gêm.
.
Bucuresti
Ceisiau:
Ashley Smith 37’, T. Rhys Thomas 44’, James Thomas 48’, Cory Hill 58’, 65’
Trosiadau: Rhys Jones 37’, 58’, 64’
Ciciau Cosb: Jason Tovey 18’, Rhys Jones 27’
.
Dreigiau
Cais:
Sean Morrell 16’
Trosiad: Florin Vlaicu 16’
Cic Gosb: Florin Vlaicu 7’