Mae Cymdeithas Bel-droed Lloegr yn cynnal cyfres o gemau pel-droed ar draws y byd er mwyn nodi canmlwyddiant y gem fu yn ystod y Rhyfel Mawr yn Nhir Neb.

Fe fydd staff pob llysgenhadaeth a chomisiwn yn cynnal gemau fel rhan o ymgyrch ‘Football Remembers’ yr FA i gofio’r gem fu rhwng milwyr Prydain ar ddydd Nadolig 1914.

“Dw i’n falch iawn y bydd staff pob llysgenhadaeth ar draws y byd yn ymuno a’r ymgyrch,” meddai Greg Dyke, Cadeirydd FA Lloegr.

“Mae hi mor addas fod pel-droed yn chwarae rhan yn y gweithgareddau i nodi canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf.

“Ddylen ni byth anghofio sut y daeth pel-droedwyr o ddwy ochr y rhyfel ynghyd, a rhoi eu harfau i lawr, ar y Nadolig hwnnw yn 1914. Mae hi’n stori bwerus a ddylai barhau.”

Yn Israel, fe fydd Llysgenhadaeth Prydain yn ninas Tel Aviv yn cynnal gem yn cynnwys 200 o chwaraewyr o gymunedau Arabaidd ac Iddewig.