Faletau
Mae cyfarwyddwr rygbi’r Dreigiau Lyn Jones wedi gwneud dau newid i’w dîm ar gyfer y trip i Rwmania yng Nghwpan Her Ewrop y penwythnos hwn.

Mae’r blaenwyr T. Rhys Thomas ac Andrew Coombs yn dychwelyd i’r tîm fydd yn herio Bleiddiau Bucharesti ddydd Sadwrn.

Ond mae’r wythwr Taulupe Faletau wedi’i adael allan o’r tîm, ar ôl iddo chwarae ym mhob un o gemau cyfres yr hydref Cymru.

Mae’r gêm eisoes wedi cael ei symud o stadiwm Arcul de Triumf i Stadiwm Ghencea oherwydd bod y cae dan ddŵr.

A dyw Coombs ddim yn disgwyl i’r gwrthwynebwyr roi gêm hawdd iddyn nhw chwaith.

“Mae gan Bucharest sgrym fawr a sgarmes symudol,” esboniodd y clo. “Maen nhw’n ymfalchïo yn eu sgrym a’u leiniau ac yn hoffi ceisio ennill ciciau cosb y gallan nhw roi yn y gornel er mwyn ymosod.”

Tîm y Dreigiau: Geraint Rhys Jones, Tom Prydie, Ross Wardle, Ashley Smith, Matthew Pewtner, Jason Tovey, Richie Rees; Brok Harris, T. Rhys Thomas, Dan Way, Cory Hill, Andrew Coombs, James Thomas, Nic Cudd, Lewis Evans (capt).

Eilyddion: Elliot Dee, Phil Price, Lloyd Fairbrother, Matthew Screech, James Benjamin, Jonathan Evans, Dorian Jones, Hallam Amos.