Sam Warburton
Fe fydd tri o sêr Cymru yn dychwelyd i dîm y Gleision yfory wrth iddyn nhw herio Gwyddelod Llundain ar Barc yr Arfau BT Sport yng Nghwpan Her Ewrop.
Mae’r rhanbarth yn croesawu Gethin Jenkins, Cory Allen ac Alex Cuthbert nôl o ddyletswydd ryngwladol – ond mae Sam Warburton yn cael hoe ar ôl gemau’r hydref.
Bydd y maswr Gareth Anscombe hefyd yn dechrau ei gêm Ewropeaidd gyntaf dros y Gleision.
Ac mae Matthew Rees yn dychwelyd i’r rheng flaen i arwain y tîm fel capten, wrth iddyn nhw fynd am drydedd fuddugoliaeth yn y grŵp eleni.
“Rydyn ni eisiau gwneud y mwyaf o’r fantais o chwarae gartref,” meddai cyfarwyddwr rygbi’r Gleision Mark Hammett.
“Ond er mwyn gwneud hynny fe fydd angen i ni berfformio gydag angerdd, gwybod ein strwythurau a’n patrymau a sicrhau bod pawb yn gwneud eu swydd.”
Tîm y Gleision: Adam Thomas, Alex Cuthbert, Cory Allen, Gavin Evans, Richard Smith, Gareth Anscombe, Lloyd Williams; Gethin Jenkins, Matthew Rees (capt), Adam Jones, Filo Paulo, Josh Turnbull, Macauley Cook, Ellis Jenkins, Josh Navidi.
Eilyddion: Kristian Dacey, Sam Hobbs, Craig Mitchell, Rory Watts-Jones, Manoa Vosawai, Lewis Jones, Gareth Davies, Dan Fish.