Alun Wyn Jones
Fe fydd Alun Wyn Jones yn arwain tîm y Gweilch yfory yn erbyn Racing Metro wrth iddo ddychwelyd wedi cyfnod â Chymru.

Mae’r haneri Dan Biggar a Rhys Webb hefyd yn dychwelyd i’r tîm ar ôl disgleirio yng nghyfres yr hydref, yn ogystal â’r blaenwyr Scott Baldwin a Justin Tipuric.

Biggar gafodd ei ddewis yn chwaraewr gorau Cymru dros gyfnod gemau’r Hydref.

Mae’r Gweilch wedi ennill un a cholli un o’u gemau yng Nghwpan Pencampwyr Ewrop hyd yn hyn, ac fe fyddan nhw’n gobeithio am ail fuddugoliaeth gartref yn erbyn y Ffrancwyr.

Fe allan nhw wynebu cyn-fewnwr y Gweilch Mike Phillips, yn ogystal â’r Cymry Jamie Roberts a Luke Charteris, sydd i gyd yn chwarae i Racing Metro.

‘Cymysgedd dda’

Yn naturiol ddigon mae prif hyfforddwr y Gweilch yn edrych ymlaen at groesawu’r sêr rhyngwladol nôl ar gyfer gêm heriol.

“Mae’r bechgyn sydd yn dod nôl o fod gyda Chymru yn llwyr ymwybodol o ba mor bwysig yw’r penwythnos yma i’r rhanbarth, ac maen nhw’n barod i ddod a’r momentwm o Gaerdydd yr wythnos diwethaf gyda nhw,” meddai Steve Tandy.

“Mae’r rhai oedd yn y tîm dros y pythefnos diwethaf yn Iwerddon hefyd wedi dangos bod asgwrn cefn a balchder yn perthyn i’r garfan yma. Mae’n gymysgedd da os ydych chi’n gofyn i fi.”

Tîm y Gweilch: Dan Evans, Tom Grabham, Ashley Beck, Josh Matavesi, Eli Walker, Dan Biggar, Rhys Webb; Marc Thomas, Scott Baldwin, Dmitri Arhip, Lloyd Peers, Alun Wyn Jones (capt), James King, Justin Tipuric, Tyler Ardron.

Eilyddion: Sam Parry, Gareth Thomas, Daniel Suter, Rynier Bernardo, Sam Lewis, Martin Roberts, Sam Davies, Hanno Dirksen.