Llywelyn Williams
Llywelyn Williams sydd yn edrych ymlaen at gêm gyffrous yng Nghwpan Cymru ddydd Sul …

Mae Cwpan Cymru yn dychwelyd y penwythnos hwn, gyda 32 o glybiau ar draws Cymru dal yn cystadlu i geisio cyrraedd y bedwaredd rownd.

Ar hyn o bryd mae dal clwstwr o glybiau pentrefol yn y ras, sydd yn hwb enfawr i’w presenoldeb ar lefel genedlaethol wrth gwrs, megis clybiau addawol fel Penrhyncoch a Goytre ymysg y cewri fel y Seintiau Newydd, Prestatyn, Aberystwyth, Bangor a’r Rhyl.

Yn ogystal, mae clwb fydd yn anghyfarwydd i’r mwyafrif ohonoch mae’n siŵr – pwy ymysg chi ddarllenwyr oedd yn gwybod am dîm Tiger Bay cyn iddynt gamu mewn i’r drydedd rownd? Mae’n grêt gweld timau gwahanol yn torri trwyddo bob hyn a hyn.

Y Cofis nôl

Ond mae yna un clwb yn y drydedd rownd sydd yn sefyll allan i mi’r penwythnos hwn.

Nid ydyn nhw yn glwb pentrefol eu naws, nac ychwaith yn glwb sydd wedi dod allan o nunlle fel Tiger Bay.

Mae’n glwb sydd ar hyn o bryd yn prysur adennill ei hunan barch, clwb sy’n ailddarganfod ei hegwyddorion a’i hygrededd unwaith yn rhagor, gyda hanes o adegau melys a chythryblus.

Mae hi wedi bod yn flynyddoedd go anodd i Glwb Tref Caernarfon. Maen nhw wedi wynebu problemau ariannol caled, colli llawer o arian, colli chwaraewyr a cholli hyder, ac wedi disgyn lawr cynghreiriau yn sgil hynny.

Nid oedd yn helpu’r achos chwaith pan oedd eu cymdogion, Dinas Bangor, yn magu cryn dipyn o lwyddiant yn yr Uwch Gynghrair, Cwpan Cymru ac yn ymddangos yn gyson yng Nghynghrair Ewropa!

Ond mae’r rhod wedi troi yn araf bach, a dal i droi mae hi.

Ar ôl dyrchafiad i gynghrair Cymru Alliance (un o dan Uwch Gynghrair Cymru) cwpl o flynyddoedd yn ôl, mae’r Cofis yn bedwerydd ar y funud.

Maen nhw’n cystadlu’n frwd yn erbyn Llandudno, Dinbych, Porthmadog a Chegidfa, a dim ond saith pwynt y tu ôl i Landudno ar y brig (gyda gêm wrth law).

Chwaraewyr ifanc addawol

Beth sydd wedi cryfhau Caernarfon dros y blynyddoedd diweddar yw ychwanegiad o chwaraewyr ifanc lleol i’r garfan, sy’n dychwelyd i’r clwb ar ôl bod am sbel yn chwarae gyda chlybiau proffesiynol dros y ffin.

Beth sy’n wych hefyd yw eu bod nhw’n griw o hogiau lleol Cymraeg eu hiaith.

Mae Nathan Craig yn ychwanegiad gwerthfawr iawn i’r garfan, chwaraewr fu gynt ar lyfrau Everton a Torquay, ac un a enillodd gapiau i dîm dan-21 Cymru.

Mae hefyd yn gweithio o fewn Academi Caernarfon, gyda’i bresenoldeb yn hwb enfawr i’r clwb a’r gymuned.

Mae Jamie McDaid yn esiampl amlwg iawn o’r talent lleol sydd yng Nghaernarfon. Mae’n ymosodwr chwim gyda llygaid am gôl – mae hefyd wedi bod yn rhan o dîm cyntaf Bangor cyn hyn arwyddo i Gaernarfon a bu’n chwarae i academïau Wrecsam a Crewe. Fo ydi prif sgoriwr y Cofis ar y funud, gyda deg gôl y tymor hwn.

Wyneb diweddaraf y garfan yw Cory Jones a fu gynt yn chwarae i Henffordd (Hereford) yn y Gyngres am ddwy flynedd cyn dychwelyd i Gaernarfon.

Mae’r mewnlifiad o chwaraewyr newydd yn dangos fod yna ddigon o dalent yn dod fewn i Gaernarfon, heb sôn am y chwaraewyr ifanc a lleol oedd yno gynt.

Fe fydd eu profiad yn allweddol wrth geisio dianc o’r gynghrair anodd iawn sydd yna yn y gogledd. Mae’n job cael dyrchafiad o’r gynghrair yna.

TNS – gwrthwynebwyr dros y Sul

Beth well felly i sbarduno’r feel good factor sydd yng Nghaernarfon ar y funud na chael gêm gwpan yn erbyn y Seintiau Newydd!

Mi fydd hi’n gêm gyffrous dros ben, a gall unrhyw beth ddigwydd yn enwedig ar yr Oval, ac mi gawn ni weld a fydd dau ymosodwr profiadol y Seintiau, Michael Wilde a Greg Draper, yn dechrau.

Mi fydd yn hwb enfawr i Gaernarfon os allan nhw ennill yn erbyn y ffefrynnau, a thîm gorau Cymru i bob pwrpas.

Mae disgwyl torf uchel dros y Sul hefyd, gan nad yw Caernarfon wedi cael cyfle i gael chwarae yn erbyn clybiau o’r Uwch Gynghrair ers sbelan maith, ac mi fydd yn gyffrous gweld Nathan Craig yn chwarae yn erbyn y Seintiau dros y Cofis.

Rwy’n dymuno’r gorau iddynt ddydd Sul, yn enwedig y ffordd maent wedi ailadeiladu o’r newydd i droi’n glwb balch iawn llawn hyder unwaith eto. Gobeithio y cawn eu gweld yn yr Uwch Gynghrair yn o fuan!

Mae angen codi mwy o ymwybyddiaeth o’r gystadleuaeth hon, cystadleuaeth sydd yn werthfawr iawn i ddatblygiad pêl-droed Cymru ar lawr gwlad.

Mi fydd y gêm rhwng Caernarfon a’r Seintiau yn fyw ar Clwb brynhawn Sul. Ydi Dylan Ebenezer yn barod?

Dyma’r gemau yn llawn dros y penwythnos yn nhrydedd rownd Cwpan Cymru. Gobeithio cawn weld tipyn o ddrama.

Tiger Bay v Caersws

Y Rhyl v Goetre Utd

Penhryncoch v Caerau Ely

Y Drenewydd v FC Nomands Cei Connah

Gresford Athletic v Llanelwy

Gap Cei Connah v Trefynwy

Conwy Borough FC v Llansawel (Briton Ferry)

Derwyddon Cefn v Aberystwyth

Prifysgol Fetropolaidd Caerdydd v Prestatyn

Bwcle v Treffynnon (Darbi dda yn fanno!)

Bangor v Garden Village

Y Bala v Port Talbot

Airbus v Hwlffordd

Lido Afan v Llanrhaeadr ym Mochnant

Undy Athletic v Caerfyrddin

Caernarfon v Y Seintiau Newydd