Dan Biggar
Mae maswr Cymru Dan Biggar wedi cyfaddef bod angen i Gymru bwyllo a pheidio â cholli eu pennau os ydyn nhw am guro un o gewri Hemisffer y De.

Bydd Cymru’n herio De Affrica yfory ar ddiwedd mis o rygbi ble maen nhw wedi colli gemau wrth ildio pwyntiau yn hwyr i Awstralia a Seland Newydd.

Dim ond unwaith mewn 27 gêm yn erbyn timau Hemisffer y De y mae Cymru wedi ennill ers i Warren Gatland ddod yn brif hyfforddwr yn 2008.

Cadw’u pennau

Fe ddaeth Cymru yn agos at drechu De Affrica dros yr haf, cyn i gamgymeriad gan Liam Williams roi cais gosb hwyr i’r Springboks.

Ac mae Biggar yn hyderus fod y tîm yn gwybod beth fydd ei angen i drechu’r gwrthwynebwyr fory.

“Mae angen i ni bwyllo,” meddai’r maswr.

“Mae angen i ni beidio â gadael i dimau eraill sgorio yn ein herbyn ni yn syth ar ôl i ni fynd ar y blaen, peidio rhoi pwyntiau meddal iddyn nhw.

“Fe fyddwn ni’n ceisio gwneud y pethau syml a rheoli diwedd y gêm.

“Rydyn ni’n torri’n boliau eisiau ennill, ac mae hynny’n beth mawr. Rydyn ni wedi bod yn ei ddweud e drosodd a throsodd, ond rydyn ni wedi cael llond bol ar ddod mor agos o hyd.”

Dim cwyn i’r BBC

Ar ôl y golled i Seland Newydd fe ofynnodd gohebydd y BBC Sonja McLaughlan wrth Warren Gatland a oedd yn teimlo dan bwysau – ac fe atebodd yr hyfforddwr yn swrth cyn cerdded ymaith.

Yn ôl adroddiadau fe gwynodd Undeb Rygbi Cymru wrth y BBC am y cwestiynu hallt, honiad sydd ddim yn wir yn ôl Gatland.

Ond fe wfftiodd yr hyfforddwr awgrym ei fod o dan fwy o bwysau nag arfer, gan ddweud mai gemau paratoadol oedd rhai’r hydref a bod y tîm yn rhoi llawer mwy o bwysau ar eu hunain nag y mae’r wasg.

“Dyw gemau’r hydref ddim yn gystadleuaeth,” meddai Gatland.

“I ni mae e’n gyfle i chwarae yn erbyn timau gorau’r byd, sydd yn dod i ddiwedd tymor cryf, er mwyn paratoi at Bencampwriaeth y Chwe Gwlad a Chwpan y Byd.”