Mae’r Scarlets wedi gwneud dau newid i’w tîm ar gyfer y gêm yn erbyn Connacht dydd Sadwrn, wrth iddyn nhw chwilio am chweched fuddugoliaeth o’r bron yn erbyn y Gwyddelod.
Kristian Phillips sydd yn dod i mewn ar yr asgell yn lle Gareth Owen, gyda Michael Tagikacibau yn symud i’r canol.
Yn y rheng flaen Phil John sydd yn cymryd lle’r prop Rob Evans, a gafodd ei alw i garfan Cymru yn gynharach yr wythnos hon.
Naw ar goll
Mae naw o chwaraewyr y rhanbarth dal i ffwrdd gyda’u timau rhyngwladol, ac er bod y Scarlets heb golli i Connacht ers 2011 mae’r prif hyfforddwr Wayne Pivac yn disgwyl gêm anodd.
“Mae angen un perfformiad mawr 80 munud arall arnom ni i ffwrdd o gartref cyn i’r chwaraewyr rhyngwladol ddychwelyd,” meddai Pivac. “Bydd e’n sialens heriol.”
Pwynt yn unig sydd yn gwahanu Connacht a’r Scarlets yn nhabl y Pro12 ar hyn o bryd, gyda’r Gwyddelod yn chweched a bechgyn Wayne Pivac yn seithfed.
“Mae’r gêm hon yn enwedig yn enfawr i ni. O ystyried lle rydyn ni o ran pwyntiau yn y tabl fe fydd e’n allweddol,” ychwanegodd prif hyfforddwr y Scarlets.
Tîm y Scarlets: Steffan Evans, Harry Robinson, Michael Tagicakibau, Regan King, Kristian Phillips, Steven Shingler, Aled Davies; Phil John, Kirby Myhill, Peter Edwards, George Earle, Johan Snyman, Aaron Shingler, James Davies, John Barclay (capt).
Eilyddion: Ryan Elias, Wyn Jones, Jacobie Adriaanse, Lewis Rawlins, Rory Pitman, Kieran Hardy, Josh Lewis, Gareth Owen.