Malky Mackay
Mae cadeirydd Clwb Pêl-droed Wigan Athletic, wedi’i gyhuddo gan Gymdeithas Bêl-droed Lloegr am sylwadau a wnaeth tra’n amddiffyn cyn-reolwr Caerdydd, Malky Mackay.

Roedd Dave Whelan, 77 oed, yn amddiffyn ei benderfyniad i benodi’r Albanwr tra bod ymchwiliad i negeseuon testun hiliol a homoffobig yn parhau.

Roedd Mackay wrth y llyw yng Nghaerdydd pan anfonodd y negeseuon.

Ymddiheurodd Whelan yn gyhoeddus am y sylwadau oedd wedi ymddangos yn y papurau newydd, ond mynnodd nad oedd y sylwadau’n hiliol a’i fod wedi cael ei gam-ddyfynnu.

Ond dywedodd y Gymdeithas Bêl-Droed fod Whelan wedi torri rheolau ac wedi dwyn anfri ar y gêm ac wedi gwneud sylwadau hiliol.

Cadarnhaodd yr Aelod Seneddol lleol, Lisa Nandy bod nifer o etholwyr wedi cwyno wrthi yn dilyn penodiad Mackay.