Ched Evans
Mae cadeirydd Clwb Pêl-droed Tranmere wedi dweud ei fod wedi gwrthod dau gynnig i arwyddo Ched Evans.
Dywedodd Mark Palios fod pobl oedd yn gysylltiedig â chyn-ymosodwr Sheffield United wedi cynnig trafod i geisio dod ag Evans i’r clwb, ond ei fod wedi gwrthod am ei fod yn poeni am enw da Tranmere.
Cafodd Ched Evans ei ryddhau o’r carchar fis diwethaf ar ôl treulio dwy flynedd a hanner dan glo am dreisio dynes mewn gwesty ger Y Rhyl yn 2011 – cyhuddiad y mae’n parhau i wadu hyd heddiw.
Roedd y pêl-droediwr wedi gobeithio ailafael â’i yrfa gyda’i gyn-glwb Sheffield United, a oedd wedi cynnig gadael iddo ymarfer â nhw.
Ond fe dynnwyd y cynnig hwnnw yn ôl ar ôl i rai o noddwyr a chefnogwyr y clwb ddatgan eu gwrthwynebiad.
‘Clwb teuluol’
Ers hynny mae’n ymddangos fod cynrychiolwyr Ched Evans wedi ceisio canfod clybiau eraill yn Lloegr fyddai’n fodlon cyflogi’r blaenwr.
Roedd Evans yn sgorio’n gyson yng Nghynghrair Un i Sheffield United cyn iddo gael ei garcharu – ond bellach mae’n ymddangos nad yw hyd yn oed Tranmere, sydd yng ngwaelodion Cynghrair Dau, eisiau ei arwyddo.
Dywedodd cadeirydd Tranmere Mark Palios nad oedd “ateb syml cywir neu anghywir” mewn achos pan mae chwaraewr wedi’i ganfod yn euog o drosedd ddifrifol.
Ond doedd o ddim yn credu y byddai arwyddo Ched Evans wedi gwneud lles i ddelwedd y clwb.
“Mae Nicola [gwaig Mark Palios] a minnau yn ceisio ailsefydlu brand Tranmere fel clwb teuluol, ac fe fyddai dod a Ched Evans yma wedi digio nifer sylweddol o gefnogwyr,” meddai’r cadeirydd mewn datganiad.
“Byddai wedi tynnu sylw’r clwb ar adeg pan mae’n rhaid i ni gadw ffocws pendant ar ailadeiladu’r clwb a gosod seiliau cadarn ar gyfer y dyfodol.
“Fe benderfynais felly na fyddai’n gwneud lles i’r clwb drafod â Mr Evans, sydd yn amlwg yn bêl-droediwr talentog.”
Beth nesaf?
Mae Ched Evans a’i dîm cyfreithiol wrthi’n apelio’r ddedfryd o dreisio, ac wedi cyflwyno achos i’r Comisiwn Adolygu Achosion Troseddol.
Ond dyw hi ddim yn ymddangos yn debygol ar hyn o bryd y bydd clwb pêl-droed proffesiynol yn Lloegr yn fodlon ei gyflogi, o gofio’r drosedd y mae’n euog ohoni a’r ymateb pan gynigiodd Sheffield United iddo ymarfer â nhw.
Un posibilrwydd yw y gallai Ched Evans geisio ailddechrau ei yrfa y tu allan i Brydain, er nad oes awgrym eto ei fod yn ystyried gwneud hynny.