Fe fydd y Bencampwriaeth Agored Hŷn yn dychwelyd i Borthcawl yn 2017.

Cafodd y gystadleuaeth ei chynnal ar y cwrs ger y lli eleni, pan oedd Bernhard Langer yn fuddugol am yr ail waith.

Yn dilyn y cyhoeddiad, dywedodd capten Cwrs Porthcawl Brenhinol, Huw Jenkins: “Rydyn ni fel clwb wrth ein bodd o gael cynnal y bencampwriaeth am yr ail waith yn 2017.

“Roedd yr adborth a ddaeth gan bawb yn dilyn y digwyddiad eleni’n wych.

“Nid yn unig y mae’n newyddion da i Gwrs Porthcawl Brenhinol, ond hefyd i Gymru gael cynnal pencampwriaeth golff fawr yn dilyn y Bencampwriaeth Amatur sy’n cael ei chynnal yn y clwb yn 2016.

Bydd y gystadleuaeth i chwaraewyr hŷn yn cael ei chynnal yn Sunningdale y flwyddyn nesaf, ac yn Carnoustie yn 2016.