Mae’r Gleision wedi enwi eu tîm i herio Treviso ym Mharc yr Arfau BT Sport nos Wener, wrth iddyn nhw chwilio am eu hail fuddugoliaeth o’r tymor yn y Pro12.
Bydd cefnwr yr Ariannin Joaquin Tuculet yn dechrau am y tro cyntaf i’r Gleision, gyda Gareth Anscombe yn symud i safle’r maswr ar gyfer ei gêm gartref gyntaf e.
Pedwar newid sydd i dîm y Gleision gyda Geraint Walsh yn cael ei ddewis ar yr asgell, Filo Paulo yn dychwelyd i’r ail reng a Josh Navidi yn hawlio crys yr wythwr.
Fe allai’r prop Craig Mitchell wneud ei ymddangosiad cyntaf ers dychwelyd o anaf, gan ei fod wedi’i enwi ar y fainc.
Galw am ddisgyblaeth
Bydd Cyfarwyddwr Rygbi’r Gleision Mark Hammett yn gobeithio gweld perfformiad gwell gan ei dîm yn erbyn yr Eidalwyr, ar ôl iddyn nhw golli yn erbyn Caeredin yr wythnos diwethaf.
Ond fe fyddan nhw’n ffefrynnau gartref yn erbyn Treviso, gan nad yw’r gwrthwynebwyr wedi llwyddo i ennill yr un o’u saith gêm gynghrair eto’r tymor hwn.
“Dyw ein gwrthwynebwyr ddim wastad wedi bod yn well na ni yn y gynghrair y tymor hwn, ond maen nhw wedi cadw’u disgyblaeth yn well ac mae’n rhaid i ni ddysgu’r gwersi hynny a gwella fel grŵp,” meddai Hammett.
Tîm y Gleision: Joaquin Tuculet, Richard Smith, Adam Thomas, Gavin Evans, Geraint Walsh, Gareth Anscombe, Lloyd Williams; Sam Hobbs, Kristian Dacey, Adam Jones (capt), Filo Paulo, Josh Turnbull, Macauley Cook, Ellis Jenkins, Josh Navidi
Eilyddion: Rhys Williams, Thomas Davies, Craig Mitchell, Miles Normandale, Rory Watts-Jones, Tavis Knoyle, Gareth Davies, Tom Isaacs