Phil Hughes
Mae’r gymuned griced o amgylch y byd wedi bod yn ymateb i’r newyddion trist am farwolaeth y batiwr llaw chwith dawnus o Awstralia, Phil Hughes dros nos.

Fe fu’r cricedwr mewn coma ar ôl cael ei daro gan fownsar yn ystod gornest rhwng New South Wales a De Awstralia yn y Sydney Cricket Ground.

Yn 25 oed – fe fyddai wedi dathlu’i ben-blwydd yn 26 yr wythnos nesaf – roedd yn un o chwaraewyr ifainc mwyaf disglair ei genedl a’i genhedlaeth. Roedd disgwyl mawr y byddai’r batiwr ymosodol wedi cael ei gynnwys yng ngharfan Awstralia i herio India fis nesaf.

Roedd yn adnabyddus i’r gymuned griced yng Nghymru a Lloegr, yn dilyn cyfnodau gyda Swydd Middlesex yn 2009, Swydd Hampshire yn 2010 a Swydd Gaerwrangon yn 2012.

Taro canred

Daeth i amlygrwydd fel chwaraewr 19 oed pan dorrodd y record am fod y chwaraewr ieuengaf i daro canred mewn gornest Sheffield Shield/Cwpan Pura.

Doedd e ddim yn fatiwr confensiynol ond roedd ganddo fe enw am daro ergydion ymosodol i bob rhan o’r cae.

Ei brif wendid, yn eironig, oedd batio yn erbyn pelenni byrion ac fe gafodd y gwendid hwn ei amlygu ar daith i Dde Affrica yn 2009.

Dyma, efallai, sy’n cyfri am ei yrfa bytiog ar y llwyfan ryngwladol, er ei fod wedi taro canred yn y ddau fatiad yn Durban ar y daith honno.

Tarodd ei drydedd canred yn Sri Lanca yn 2011 ond doedd e dal ddim wedi llwyddo i gadarnhau ei le yn y tîm prawf.

Mewn gemau undydd, fe ddangosodd ei addewid wrth fod y chwaraewr cyntaf o Awstralia i daro dau gant o rediadau mewn batiad yn ystod gêm Rhestr A.

Wedi hynny, fe darodd 243 i dîm ‘A’ Awstralia ac roedd sôn y byddai’n dychwelyd i’r llwyfan rhyngwladol unwaith eto.

Yn sicr, fe fydd rhaid i’r byd criced ateb cwestiynau difrifol iawn am ddiogelwch maes o law ac fe fydd tipyn o gefnogaeth i’r bowliwr Sean Abbott.

Ond am y tro fe fydd y byd criced yn cofio am chwaraewr disglair a chymeriad hoffus.

Teyrngedau

Mae llu o deyrngedau wedi’u rhoi ar wefannau cymdeithasol heddiw yn dilyn y newyddion am Phil Hughes.

Dywedodd Clwb Criced Morgannwg ar eu tudalen Twitter: “Diwrnod trist i griced gyda’r newyddion am golli’r Awstraliad #PhilHughes. Cymdeimladau gyda’i deulu a’i ffrindiau #TeuluCriced”.

Dywedodd Clwb Criced Swydd Gaerwrangon ei fod yn “golled fawr i’r gêm”.

Meddai Prif Weithredwr Clwb Criced Swydd Hampshire, David Mann ar dudalen Twitter y clwb: “Mae pawb yn Swydd Hampshire wedi cael sioc ac yn drist o glywed y newyddion trasig. Rydym yn ymuno â’r byd criced mewn galar.”

Mewn datganiad, dywedodd Clwb Criced Swydd Middlesex: “Roedd Phil yn ddyn ifanc disglair, talentog a hwyliog a wnaeth argraff anferth ar y clwb yn ystod ei gyfnod byr yma yn Lord’s. Mae Clwb Criced Swydd Middlesex yn falch ei fod e wedi cynrychioli’r clwb.”

Ychwanegodd y clwb eu bod nhw wedi gohirio sesiynau ymarfer ac y byddai’r baneri ar gae Lord’s yn cael eu gostwng er cof amdano.