Rhys Hartley
Rhys Hartley sydd yn edrych ymlaen at deithio i Frwsel i wylio Cymru ddydd Sul …
Yn 2012, a Chymru wedi colli dwy gêm gyntaf yr ymgyrch gan ildio wyth gôl, roedd Stadiwm Dinas Caerdydd yn llawn Albanwyr – wrth i ni eu curo nhw diolch i ddwy gôl gan chwaraewr arbennig iawn… Mr Gareth Bale.
Ond dim ond seibiant rhwng colledion oedd hynny, wrth i gwta 300 o Gymry deithio i ddwyrain Croatia i’n gweld ni’n ildio dwy gôl a gadael yn waglaw.
Rydyn ni wedi hen arfer â’r dechreuadau hunllefus yma. Yn ein grŵp ar gyfer Ewro 2012, dechreuodd ein hymgyrch â phedair colled, a hynny o dan dri rheolwr gwahanol.
Mae hi wedi bod ar ben i ni erbyn troad y flwyddyn llawer rhy aml. Yn sgîl hyn gwelwyd y torfeydd yn disgyn yn aruthrol gyda dim ond 12,500 yn y gêm gartref yn erbyn Croatia ym mis Mawrth y llynedd.
Tro ar fyd
Ond ddwy flynedd yn ddiweddarach mae tro ar fyd. Y tro yma does dim rhaid i ni dreulio oriau yn gwneud syms mawr cymhleth er mwyn profi bod dal siawns gyda ni i gyrraedd y ffeinals (yn fathemategol).
Am y tro cyntaf mewn dros ddegawd, rydym ni’n eistedd ar frig ein tabl â phawb yn breuddwydio am wyliau haf yn Ffrainc ymhen dwy flynedd yn lle canu ‘We’ll Never Qualify’ yn ddilornus i alaw Mary Hopkin ‘Those Were The Days’ mewn gwlad anghysbell (wedi i ni orffen crio mewn i’n cwrw, wrth gwrs).
Mae’r torfeydd wedi codi yn gynt na wnaethon nhw syrthio dros y ddegawd ddiwetha – mae’n rhyfedd beth mae tipyn bach o lwyddiant yn gwneud i rywun.
Bu’n rhaid agor lefel ucha’, newydd, Stadiwm Dinas Caerdydd am y tro cyntaf, gymaint oedd y diddordeb. Ac fe werthon ni hwnnw allan hefyd, wrth i Gymru chwarae o flaen eu torf gartref fwyaf (heb gyfrif gêm Lloegr) ers curo Azerbaijan yn 2005.
Tafell o’r gacen
Mae natur cefnogwyr pêl-droed cenedlaethol wedi bod yn bwnc llosg i ni’r Cymry ers sbel.
Rydym ni’n gwybod, o’n profiadau ym Milan a Rwsia, bod pawb eisiau tafell o’r gacen pan rydym ni’n ennill.
Dim ond buddugoliaethau sy’n eu denu nhw (a gemau yn erbyn yr hen elyn, sbo). Yr unig ffordd r’yn ni wedi llwyddo i’w denu yn ôl am y tro cyntaf mewn deng mlynedd yw trwy lwyddiant ar y cae.
Yn wir, mae diddordeb yn y tîm cenedlaethol wedi codi cymaint fel y bu mwy o ymgeiswyr na thocynnau ar gynnig ar gyfer y gêm ddydd Sul yng ngwlad Belg.
Bu’n rhaid i’r Gymdeithas Bêl-droed weithredu system pwyntiau er mwyn gwobrwyo’r cefnogwyr mwyaf triw.
Er bod gen i bob un pwynt posib, roeddwn i dal braidd yn paranoid o beidio cael tocyn achos rhyw gamgymeriad neu rywbeth.
Diolch i’r drefn, dw i’n un o’r rhai ffodus sydd wedi cael tocyn, er i un o fy ffrindiau sy’n mynd i bob gêm fethu gan iddo anfon y ffurflen nôl ddiwrnod yn hwyr. Os y’ch chi’n clywed am un sbâr rhowch ganiad plîs!
Collins dal yno …
Ry’n ni’n gwybod pam fod y gefnogaeth wedi tyfu, ond sut mae esbonio’r twf yn y diddordeb ar y cae?
Roedd undod y garfan yn amlwg i weld wrth i ni fynd lawr i ddeg dyn yn erbyn Cyprus, a’r ‘cwtch’ ar ddiwedd y ddwy gêm gartref wedi’i arwain gan Bale, yn ddigon i dynnu deigryn i lygaid y cefnogwr ffyddlon.
Mae chwaraewyr fel Chester a Dummett wedi dewis chwarae dros Gymru, ac mae’r sêr eraill yn troi lan (dyw James Collins dal heb dynnu mas o’r garfan wrth i mi ‘sgwennu hyn).
Mae’r canlyniadau yn edrych yn addawol iawn, heb sôn am lwyddiant ein tîm dan-16 wnaeth guro Lloegr a’r Alban yn y pythefnos d’wetha.
Prawf mwyaf hyd yn hyn
Er hyn, mae’n rhaid cofio mai dim ond o drwch blewyn y llwyddon ni i guro Andorra oddi cartref.
Mae’n ddigon hawdd i ni gwyno am y cae a’r dyfarnwr ac mi oedd y ddau’n warthus, ond dylai gêm o’r fath fod yn un hawdd i dîm llawn chwaraewyr Uwch Gynghrair a chwaraewr dryta’r byd yn erbyn chwaraewyr rhan-amser.
Mae’n anodd i mi beidio anghofio’r shambyls yn Andorra ond mae hi, wrth gwrs, yn bositif ein bod ni i weld wedi dysgu o’n ffaeleddau.
Galla’i ddychmygu ni’n colli’r gêm yna yn erbyn Cyprus cwpwl o flynyddoedd yn ôl, yn enwedig o dan yr amgylchiadau.
Ond ydyn ni’n barod ar gyfer prawf go iawn? Roedd Bosnia yn brawf enfawr i ni ond nhw oedd yn edrych yn debycach o sgorio.
Felly beth y’n ni’n disgwyl dydd Sul? Ers i’r grŵp gael ei gyhoeddi, r’yn ni wedi bod yn hapus i ildio’r safle cyntaf i Wlad Belg, a bydd colli oddi cartref iddyn nhw’n dderbyniol.
Serch hynny mae’n rhaid i ni fynd i mewn i’r gêm gydag agwedd hyderus a mynd ati i ennill. Er i ni chwarae’r gêm yno llynedd wedi iddyn nhw ennill y grŵp, gallwn ni ennyn hyder yn y canlyniad hwnnw yn sicr, gan gofio ein tîm amhrofiadol ni’r noson hwnnw.
Disgwyl y gwaethaf
Dw i dal ddim yn hyderus, yn anffodus. Mae sêr Gwlad Belg yn perfformio’n dda yn gyson ac i’w weld wedi dod at ei gilydd yn dilyn eu profiad yng Nghwpan y Byd.
Es i i’w gêm yn erbyn Algeria ym Mrasil a dangoson nhw gryfder meddwl ac undod i ennill y gêm wedi iddyn nhw fynd gôl i lawr yn yr hanner cyntaf.
Gyda Courtois, Hazard a Lukaku ar eu gorau’r tymor yma a Fellaini’n dychwelyd i dîm cyntaf Man U, mae lot ‘da ni i ofni.
Mae’n carfan ni yn gryf hefyd ond dw i ddim yn meddwl ein bod ni cweit ar lefel Gwlad Belg eto.
Wrth gwrs, gyda Bale mae unrhyw beth yn bosib ac mae’n rhaid gobeithio y gall Ramsey ddyfalbarhau ar ôl ei berfformiadau siomedig diweddar.
Os yw’r tîm yn chwarae fel wnaethon nhw yn Andorra gallwn ni anghofio am gipio unrhyw beth ond, gyda chalon fel dangoson ni yn erbyn Cyprus, falle, jyst falle, bydd siawns ‘da ni.
Sŵn y cefnogwyr
Bydd dwy fil a hanner ohonom ni ym Mrwsel yn rhoi cant y cant, a gyda’r wyth cant sy’n teithio heb docynnau, bydd y genedl gyfan yn gobeithio am fuddugoliaeth arall i selio’n lle ar frig y tabl a chael anghofio cân Mary Hopkin.
Pwy a ŵyr? Falle allwn ni werthu mas taith leia’ ddeniadol y grŵp i lawer (neu’r mwya’ i mi), Israel, gêm fydd yn rhaid i ni ennill beth bynnag y canlyniad dydd Sul.
Mae hi am fod yn nerfus ond mae’n rhaid i bawb fod tu cefn i’r bois. ‘Gyda’n gilydd, yn gryfach’ yw arwyddair Cymdeithas Bêl-droed Cymru, ac mae’n rhaid i ni i fod yn ddeuddegfed dyn i’r tîm am y flwyddyn nesa’ o leia’.