Rhidian Jones

Rhidian Jones sy’n edrych ar berfformiad cefnogwyr rygbi…

Mae cefnogwyr rygbi wedi cael sylw gwael wythnos yma, ac yn haeddiannol felly debyg iawn.

I ddechrau, cafwyd yr honiadau bod rhai o gefnogwyr Lloegr wedi bod yn gweiddi sylwadau gwrth-Gymreig a homoffobig at y dyfarnwr Nigel Owens yng ngêm Seland Newydd.

Dw i ddim yn un o’r rheiny sy’n credu bod rhaid i gefnogwyr rygbi ymddwyn fel angylion. Pwrpas mynd i weld gêm yw i weiddi, i annog, i brofi theatr y gêm ac i obeithio am fuddugoliaeth ar y diwedd.

Os yw’r tîm yn colli mae’r dyfarnwr yn aml yn troi’n ‘ddyn drwg’ yn y ddrama sy’n digwydd o’n blaenau, ac yn oes y sgriniau mawr mae’r cefnogwr yn credu – yn gwybod! – ei fod yn gallu dyfarnu’n well na’r dyn yn y canol.

Does dim problem gen i gyda phobol yn cwestiynu penderfyniadau, ac yn mynegi ychydig o rwystredigaeth at ddyfarnwr, achos mae emosiwn yn rhan fawr o fod yn gefnogwr mewn gêm.

Ond mae defnyddio rhywioldeb  i wawdio dyfarnwr neu chwaraewr yn mynd y tu hwnt i achlysur gêm o rygbi ac yn groes i’r holl gamp.

Bwio Rhys

A gwrthun hefyd oedd y bwio a gafodd Rhys Priestland pan ddaeth ymlaen i’r cae. Pwy fyddai wedi dychmygu y byddai Cymro balch yn cael y fath groeso gan ei gefnogwyr ei hun?

Ac nid dod ymlaen fel eilydd tactegol, dewisol oedd e, ond eilyddio cyd-chwaraewr oedd wedi cael anaf. Mae Warren Gatland a Shaun Edwards yn gywir i fynegi eu hanfodlonrwydd gyda rhai o gefnogwyr Cymru.

Y tebygrwydd yw bod gelyniaeth ranbarthol wedi codi i’r brig yn Stadiwm y Mileniwm. Dros y tair blynedd diwethaf mae Priestland wedi bod yn fwy o ffefryn gan Gatland na Biggar, ac mae hynny wedi codi gwrychyn rhai o gefnogwyr y Gweilch, yn enwedig gan taw ‘Twrc’ sydd wedi elwa.

Roedd Priestland yn wych yng Nghwpan y Byd 2011 a chyfrannodd hynny’n fawr at lwyddiant Cymru wrth i ni gyrraedd o fewn trwch carden goch i’r ffeinal.

Priestland hefyd a lywiodd y tîm i’r Gamp Lawn yn 2012, ond treuliodd y rhan fwyaf o 2013 yn ceisio gwella o anaf i’w sawdl a chollodd y crys rhif 10 i’r dibynadwy Dan Biggar. Hen bryd meddai rhai.

Mae plwyfoldeb a chefnogaeth diwyro i’r tîm neu ranbarth lleol yn rhan bwysig o rygbi Cymru, a bydded i hynny barhau, ond gadawed hynny wrth far y City Arms neu’r Angel Hotel pan ddaw hi’n ddiwrnod gêm ryngwladol.

R’yn ni’n ei chael hi’n ddigon anodd curo gwledydd hemisffer y de heb fod ein cefnogwyr ni’n hunain yn troi yn erbyn y crysau cochion.

Pob hwyl i Rhys a bois Cymru yn erbyn un arall o wledydd y de, Fiji, a gobeithio caiff y cefnogwyr a’r chwaraewyr gêm dda.