Mae golwr Cymru Wayne Hennessey wedi mynnu bod Gareth Bale yn barod i “gosbi” unrhyw wendidau yn nhîm Gwlad Belg – dim ots faint maen nhw wedi paratoi a chynllunio ar gyfer ffrwyno ymosodwr Real Madrid.

Bydd Cymru yn teithio i Frwsel fory wrth iddyn nhw baratoi i herio Belg drannoeth mewn gêm ragbrofol Ewro 2016 allweddol.

Ac er bod gan y gwrthwynebwyr ddigon o sêr mawr eu hunain, mae Hennessey’n ffyddiog y bydd Bale yn rhoi digon o gur pen i’w hamddiffyn nhw a’u golwr Thibaut Courtois.

Tîm Chris Coleman sydd ar frig y grŵp ar hyn o bryd, ar ôl ennill dwy a chael un gêm gyfartal o’u tair gyntaf.

Bale v Courtois

Ar ôl llwyddo i gyrraedd rownd wyth olaf Cwpan y Byd ym Mrasil eleni fodd bynnag, Gwlad Belg fydd y ffefrynnau pan fydd y ddau dîm yn cyfarfod yn Stadiwm Roi Badouin dydd Sul.

Y golwr Courtois yw un o chwaraewyr pwysicaf Gwlad Belg, ac ar ôl ennill La Liga gydag Atletico Madrid llynedd mae wedi cael dechrau da i’w yrfa gyda Chelsea.

Ond mae Hennessey’n gobeithio mai Bale fydd yn cael y gair olaf yn erbyn Courtois unwaith eto – fel ag y gwnaeth yn ffeinal Cwpan Ewrop, pan beniodd y Cymro’r gôl a enillodd y gwpan i Real Madrid yn erbyn Atletico.

“Mae Courtois yn golwr gwych ac fe fydd o wedi gwneud ei waith cartref ar Bale,” meddai Hennessey, sydd wedi bod yn eilydd i Crystal Palace am y rhan fwyaf o’r tymor.

“Fe fyddan nhw wedi gwneud eu gwaith cartref a gweld sefyllfaoedd mewn gemau ble mae o wedi gwneud yn dda, fel y gôl yn erbyn Andorra.

“Mae Bale yn dalent anhygoel ac rydan ni i gyd wedi gweld sut mae’n medru cosbi pobl a chael goliau o bobman.

“Mae’n ymarfer o hyd a dyna pam mae o mor dda – fe gafodd o beniad yn erbyn Courtois yn ffeinal Cynghrair y Pencampwyr, sydd yn ddiddorol.”

Brwydro Lukaku

Ar ôl ymarfer ar ben ei hun dydd Mercher mae capten Cymru Ashley Williams wedi gwella o anafiadau bychan, ac fe fydd yn barod i arwain y tîm ym Mrwsel ymhen deuddydd.

Y newyddion calonogol i Gymru, fodd bynnag, yw bod capten a phrif amddiffynnwr canol Gwlad Belg Vincent Kompany am fethu’r gêm oherwydd anaf.

Er hynny mae Ashley Williams yn disgwyl noson hir o’i flaen wrth geisio cadw ymosodwyr Gwlad Belg, gan gynnwys Romelu Lukaku a Divock Origi, yn ddistaw.

“Mae’n bonws i ni fod eu harweinydd nhw ddim yn chwarae ond mae hi dal am fod yn anodd,” meddai capten Cymru.

“Rydyn ni’n gwybod eu bod nhw’n dîm gwych ac fe fydd rhaid i ni ddangos yr agosatrwydd yna eto os ydyn ni am gael unrhyw beth allan o’r gêm.

“Fi wastad yn mwynhau brwydro gyda Lukaku sy’n foi cryf, cyflym ac yn gallu sgorio, ac mae Origi’n edrych yn beryglus, felly mae ganddyn nhw nifer o fygythiadau.”

Dwylo saff Cymru

Fe fydd yn rhaid i’r golwr y tu ôl i Ashley Williams fod yn barod am gêm brysur nos Sul, ond mae gan Wayne Hennessey ffydd y gall y tîm gipio canlyniad arall.

Llynedd fe lwyddodd Cymru i gael gêm gyfartal 1-1 allan ym Mrwsel er bod pymtheg chwaraewr ar goll oherwydd anafiadau, gyda Hennessey’n serennu yn y gôl.

Ac mae’r gŵr o Fôn yn hyderus bod gan Gymru well siawns y tro hwn gyda charfan gryfach.

“Mae’n tîm ni ar ei gryfaf a dw i ddim yn gweld pam na allwn ni fynd yno a chael canlyniad,” meddai Hennessey.

“Dy’n ni ddim yn bell y tu ôl [i Wlad Belg o ran safon] o gwbl, ac fe fydd timau yn edrych arnom ni yn y grŵp a meddwl, ‘Cymru, bydden i ddim eisiau mynd draw i’w chwarae nhw’.”