Shaun Edwards a Warren Gatland
Ar drothwy’r ornest yn erbyn Fiji mae hyfforddwr amddiffyn Cymru Shaun Edwards wedi mynnu bod unrhyw gefnogwyr sydd yn bwio Rhys Priestland yn amharchu’r tîm cyfan.

Fe roddodd gyfran rhai o’r dorf groeso anghynnes i Priestland pan ddaeth ar y cae fel eilydd yn ystod gêm Cymru yn erbyn Awstralia’r penwythnos diwethaf, pan gollon nhw o 28-33.

Fiji yw ail wrthwynebwyr Cymru yng nghyfres yr hydref, ac mae gan fechgyn Warren Gatland gemau yn erbyn Seland Newydd a De Affrica i ddod.

Mae Shaun Edwards wedi mynnu nad yw am glywed yr un croeso anghynnes eto pan fydd Priestland, sydd yn un o wyth newid yn y tîm, yn camu i’r cae.

‘Bwio ni i gyd’

Wrth siarad cyn y gêm, dywedodd Edwards ei fod yn gobeithio y bydd y rheiny yn y dorf oedd yn feirniadol o’r maswr yn erbyn Awstralia yn cadw’n ddistaw yfory.

“Gyda Rhys Priestland mae’n bwysig cofio bod y rhan fwyaf o’r dorf y tu cefn i ni, ond os ydych chi’n bwio un ohonom ni, rydych chi’n bwio ni i gyd,” meddai Edwards.

“Os ydych chi’n bwio Rhys Priestland, rydych chi’n bwio fi, rydych chi’n bwio Warren Gatland, rydych chi’n bwio Leigh Halfpenny, rydych chi’n bwio crys Cymru.

“Yn bersonol, dyw hynny ddim yn dderbyniol.”

Mynnodd yr hyfforddwr mai gêm deuluol fu rygbi erioed, a’i fod am weld cefnogwyr yn plismona’r rhai fu’n gweiddi bw.

“Os yw’r bobl hynny’n ddigon gwirion i wneud hynny eto, hoffwn i feddwl y byddai gweddill y dorf yn eu rhoi yn eu lle,” ychwanegodd Edwards.

Cyfle i Liam

Mae’r prif hyfforddwr wedi newid wyth o’r pymtheg ddechreuodd yn erbyn Awstralia, gydag anaf yn cadw Dan Biggar a Leigh Halfpenny i ffwrdd ac eraill yn cael hoe am wythnos.

Un o’r rheiny fydd yn gobeithio manteisio ar y cyfle i wneud argraff fydd Liam Williams, a ddechreuodd ar yr asgell yn erbyn Awstralia ond fydd nôl yn safle’r cefnwr i herio Fiji.

“Mae’n gêm enfawr i mi,” meddai Liam Williams. “Mae’n gyfle i mi ddechrau nôl yn y crys rhif 15 ble fi’n dwlu chwarae, ac mae’n gyfle enfawr a fi’n edrych ymlaen.”

Ond mae’n cyfaddef bod yr hyfforddwyr wedi’i rybuddio ynglŷn â’i ddisgyblaeth ar y cae.

“Fi’n dwlu cael y bêl yn y dwylo i geisio rhedeg heibio chwaraewyr, fi jyst moyn mynd mas a pherfformio,” meddai Liam Williams.

“Fi wedi siarad â’r hyfforddwyr, maen nhw eisiau i mi chwarae’r math yna o gêm ond mae Gats hefyd wedi dweud mod angen i mi beidio â cholli fy mhen.

“Dyna’n union beth fi’n ceisio gwneud a gobeithio nes i ddangos hynny’r wythnos diwethaf.”

Tîm Cymru v Fiji (Stadiwm y Mileniwm, cic gyntaf 14.30)

Liam Williams (Scarlets), Alex Cuthbert (Gleision), Scott Williams (Scarlets), Jamie Roberts (Racing Metro), George North (Northampton), Rhys Priestland (Scarlets), Mike Phillips (Racing Metro), Gethin Jenkins (Gleision – capten), Scott Baldwin (Gweilch), Samson Lee (Scarlets), Bradley Davies (Wasps), Luke Charteris (Racing Metro), Dan Lydiate (dim clwb), Justin Tipuric (Gweilch), Taulupe Faletau (Dreigiau)

Eilyddion Cymru: Emyr Phillips (Scarlets), Nicky Smith (Gweilch), Rhodri Jones (Scarlets), Alun Wyn Jones (Gweilch), James King (Gweilch), Rhodri Williams (Scarlets), James Hook (Caerloyw), Cory Allen (Gleision).

Tîm Fiji: Metuisela Talebula, Waisea Nayacalevu, Vereniki Goneva, Nemani Nadolo, Asaeli Tikoirotuma, Josh Matavesi, Nikola Matawalu; Campese Ma’afu, Sunia Koto, Manasa Saulo, Leone Nakarawa, Api Ratuniyarawa, Dominiko Waqaniburotu, Masi Matadigo, Akapusi Qera (capt)

Eilyddion Fiji: Tuapati Talemaitoga, Jerry Yanuyanutawa, Isei Colati, Tevita Cavubati, Malakai Ravulo, Henry Seniloli, Jonetani Ralulu, Timoci Nagusa