Asgellwr Cymru Hal Robson-Kanu yn 'hyderus' (llun: CBDC)
Mae tîm Cymru’n hyderus y gallan nhw ennill pwyntiau yng Ngwlad Belg, yn ôl asgellwr Cymru Hal Robson-Kanu – hyd yn oed os nad yw pobol eraill yn credu hynny.
Er mai Cymru sydd ar frig eu grŵp rhagbrofol Ewro 2016 ar hyn o bryd ar ôl tair gêm, Gwlad Belg fydd y ffefrynnau clir pan fydd y ddau dîm yn herio’i gilydd ym Mrwsel nos Sul.
Fe lwyddodd Gwlad Belg i gyrraedd rownd wyth olaf Cwpan y Byd yn yr haf, gyda charfan sy’n cynnwys sêr Chelsea Eden Hazard a Thibaut Courtois.
Ond fe fynnodd Robson-Kanu bod carfan Cymru, gyda sêr disglair eu hunain, yn hyderus o gael “canlyniad positif”.
Angen pwyntiau
Mae’n debygol y bydd Hal Robson-Kanu yn dechrau’r gêm yn erbyn Gwlad Belg ddydd Sul, gan nad yw ymosodwyr eraill fel Sam Vokes, Simon Church a Jonathan Williams yn y garfan oherwydd anafiadau.
Y llynedd fe lwyddodd Cymru i gael gêm gyfartal 1-1 ym Mrwsel, er gwaethaf y ffaith bod pymtheg o chwaraewyr yn absennol oherwydd anafiadau.
Ac mae asgellwr Reading yn mynnu nad yw’r tîm yn cymryd sylw o’r rheiny sy’n dweud nad oes ganddyn nhw lawer o obaith y tro hwn.
“Dyw’r bobol sy’n dweud hynny ddim yn rhan o’r garfan,” meddai Hal Robson-Kanu. “Fel grŵp o chwaraewyr, fel carfan, a’r staff, rydyn ni’n gwybod beth allwn ni gyflawni.
“Rydyn ni’n mynd i Wlad Belg gyda’r ffocws yn llwyr ar geisio cael canlyniad positif, boed e’n fuddugoliaeth neu’n gêm gyfartal.”
Hunanhyder Hal
Fe fethodd Robson-Kanu gêm gyntaf ymgyrch Ewro 2016 Cymru, y fuddugoliaeth o 2-1 dros Andorra, gydag anaf.
Ond ers dychwelyd mae wedi chwarae rhan allweddol yn yr ymgyrch, gan sgorio ail gôl Cymru yn eu buddugoliaeth o 2-1 dros Gyprus fis diwethaf.
Ac mae’n gwerthfawrogi’r ffydd sydd gan reolwr Cymru Chris Coleman ynddo.
“O dan y rheolwr dw i wedi chwarae pob gêm dw i wedi bod yn ffit ar ei chyfer,” meddai Robson-Kanu. “Dw i’n gwybod beth dw i’n ei gynnig i’r garfan, i fy nghlwb a fy ngwlad.”
Gwneud eu gwaith cartref
Fe aeth Chris Coleman a’r hyfforddwr Osian Roberts draw i Frwsel nos Fercher i wylio Gwlad Belg yn trechu Gwlad yr Ia 3-1 mewn gêm gyfeillgar.
Mae chwaraewyr Cymru bellach wedi gwylio’r gêm honno fel rhan o’u gwaith cartref – ond mae Hal Robson-Kanu’n hyderus gan ddweud nad oedd dim byd newydd yn yr hyn welson nhw.
“Ar y lefel yma mae’n rhaid i chi fod yn ymwybodol o’r bygythiad sydd gan chwaraewyr y gwrthwynebwyr,” cyfaddefodd Robson-Kanu.
“Ni’n ymwybodol o’r hyn sydd gan eu chwaraewyr unigol nhw i’w gynnig, felly mae’n bwysig ein bod ni’n eu hatal nhw yn gyntaf, ac yna dangos beth allwn ni ei wneud. Mae gan Gymru chwaraewyr peryglus ein hunain.”
‘Dim i’w golli yng Ngwlad Belg’ – cyfweliad fideo golwg360 ag Emyr Huws