Ched Evans yng nghrys Sheffield United (PA)
Ddylai’r chwaraewr pêl-droed Ched Evans ddim cael chwarae’r gêm yn broffesiynol eto, meddai Prif Weinidog Cymru.

Roedd rhai troseddau yn golygu na fedrai person gymryd rhan eto mewn gyrfa gyhoeddus sy’n talu arian mawr, yn ôl Carwyn Jones.

Fe ddywedodd ar y rhaglen holi Question Time na ddylai’r Cymro gael ailgydio yn ei yrfa, er ei fod wedi treulio cyfnod yn y carchar am dreisio merch ifanc yn Y Rhyl.

Rhy ddifrifol

Wrth ateb cwestiwn gan y gynulleidfa, fe ddywedodd Carwyn Jones fod rhaid ystyried sut y byddai’r ferch yn teimlo pe bai’n gweld ei threisiwr yn chwarae eto ac yn ennill arian mawr.

Roedd yna troseddau mor ddifrifol, meddai, yn gwahardd y troseddwr rhag gwneud rhai swyddi – fel troseddwyr rhyw gyda phlant – ac roedd hynny’n wir am dreisio a champ fel pêl-droed lle’r oedd delwedd yn bwysig.

Ar raglen arall neithiwr, roedd Cadeirydd Cymdeithas Bêl-droed Lloegr, Greg Dyke, wedi gwrthod rhoi ei farn ar y cwestiwn, gan ddweud nad oedd yr ateb yn glir.